Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw hawliau tramwy cyhoeddus, pwy sy'n cael eu defnyddio a sut maen nhw'n cael eu rheoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw hawliau tramwy cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys:

  • llwybrau troed
  • llwybrau ceffyl
  • cilffyrdd cyfyngedig
  • cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig

Pwy sy'n cael eu defnyddio

Mae pawb yn cael defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys:

  • cerddwyr
  • beicwyr
  • pobl ar geffylau
  • gyrwyr cart a cheffyl
  • defnyddwyr cerbydau modur

Ond mae'r rheolau a'r trefniadau ar gyfer yr 20,500 o filltiroedd (33,000km) o hawliau tramwy cyhoeddus yn gymhleth. I weld gwybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus, ewch i gov.uk.

Rheoli hawliau tramwy cyhoeddus

Awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol am yr hawliau tramwy cyhoeddus yn eu hardal. Mae eu prif dyletswyddau'n cynnwys:

  • cynnal a chadw
  • atal rhwystrau
  • cadw cofnod cyfreithiol o'r hawl tramwy

Os oes gennych bryderon neu gwestiynau am hawl tramwy, cysylltwch â'r awdurdod lleol perthnasol.