Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon os ydych wedi cyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Tir gywir ond eich bod wedi talu mwy i ni nag y dylech fod wedi’i dalu.

Gallwch wneud cais am ad-daliad Treth Trafodiadau Tir os:

  • mai chi yw prynwr yr eiddo y codwyd y gyfradd uwch arno
  • ydych yn gyfreithiwr neu drawsgludydd a weithredodd ar ran y prynwr yn y pryniant gwreiddiol
  • ydych yn rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr

Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu eich cais. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.

Cyn i chi ddechrau

Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi'i chwblhau'n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth ganlynol gennych cyn dechrau.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch

I lenwi'r ffurflen hon, byddwch angen:

  • eich manylion
  • manylion y prynwr arweiniol os ydyn nhw’n wahanol i'ch manylion chi
  • manylion y trafodiad gwreiddiol
  • Cyfeirnod Unigryw, 12 digid, y Trafodiad
  • faint o dreth sydd i’w ad-dalu
  • manylion cyfrif banc a chod didoli’r person fydd yn derbyn y taliad

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Cymorth

Os oes angen help arnoch neu yr hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.