Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen hon os oes gennych hawl i wneud cais am eich costau iechyd a’ch bod yn byw mewn cartref gofal neu wedi gadael gofal yr awdurdod lleol yn ddiweddar.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

HC1(SC)W Hawlio am gymorth gyda chostau iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 179 KB

PDF
179 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi angen unrhyw un o’r canlynol:

  • triniaeth ddeintyddol y GIG
  • profion llygaid, sbectol neu lensys cyffwrdd
  • teithio i gael triniaeth y GIG o dan ofal ymgynghorydd

ac

  • os ydych yn byw yn barhaol mewn cartref gofal a bod awdurdod lleol yn eich helpu gyda chost eich llety neu
  • os ydych yn cael eich cefnogi gan awdurdod lleol oherwydd eich bod wedi gadael gofal yr awdurdod lleol yn ddiweddar         

Gallwch wneud cais am gopi papur o’r ffurflen hon dros e-bost neu drwy ffonio’r llinell archebu cyhoeddiadau ar 0345 603 1108 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg).