Hawliwch help gyda chostau ysgol
Wrth i gostau byw gynyddu, ni ddylai unrhyw blentyn wneud heb. Dysgwch am 3 math o gefnogaeth y gallai fod gennych hawl iddynt.
Peidiwch â cholli allan: prydau ysgol am ddim

Os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, neu os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol, efallai y bydd gennych hawl i brydau ysgol am ddim. Efallai bydd gennych hawl hefyd i dalebau neu ariannu ar gyfer prydau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol (hyd tan ddiwedd mis Mai 2023).
Mae prydau ysgol yn hybu bwyta iach, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gallai eich plentyn fod yn bwyta, a gall wella ei ymddygiad a sgiliau cymdeithasol.
Edrychwch i weld a oes gan eich plentyn hawl i brydau ysgol am ddim
Manteisiwch ar eich hawliau: hawliwch help gyda hanfodion ysgol

Os yw eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ar gael gyda hanfodion ysgol.
Gall y pecyn hwn helpu gyda chostau hanfodion ysgol fel gwisg ysgol ac offer, i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol.
Gallai fod gennych hawl i gefnogaeth o hyd at £300 ar gyfer:
- gwisg ysgol: gan gynnwys dillad chwaraeon a sgidiau
- gweithgareddau ysgol: gallai hyn gynnwys dysgu offeryn cerddorol, offer chwaraeon, ac offer arall ar gyfer clybiau ar ôl ysgol.
- hanfodion ystafell ddosbarth: gallai hyn gynnwys pennau, pensiliau a bagiau ysgol
Edrychwch i weld a allwch gael help gyda hanfodion ysgol
Mae mwy i ddod...

Ers mis Medi 2022, mae ysgolion wedi dechrau cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, gan ddechrau gyda phlant mewn Dosbarthiadau Derbyn.
Os oes gennych blentyn yn dechrau mewn Dosbarth Derbyn mis Medi hwn, bydd ganddo hawl i brydau ysgol am ddim. Gallai fod angen i chi wneud cais neu ei gofrestru am brydau ysgol am ddim, fel bod ei ysgol yn gwybod faint o brydau i’w paratoi.
Darganfod mwy am Brydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
Hawliwch help gyda chostau byw
Dysgwch fwy am gefnogaeth arall a allai fod ar gael i chi.