Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch fwy am y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd o fis Medi 2022 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl.

Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad.

Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn ymestyn prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd dros y tair blynedd nesaf.

Cyflwyno’r Cynllun

Bydd y mwyafrif o awdurdodau lleol yn gallu dechrau darparu prydau ysgol am ddim i Ddosbarthiadau Derbyn o ddechrau tymor yr Hydref, Medi 2022 ac ymestyn y cynnig i Flynyddoedd 1 a 2 erbyn dechrau tymor yr Haf, Ebrill 2023 fan bellaf. Yr amserlen arfaethedig yw:

  • Medi 2022 - holl ddysgwyr Dosbarthiadau Derbyn yn cael cynnig prydau ysgol am ddim
  • Ebrill 2023 - cynnig prydau ysgol am ddim i holl ddysgwyr Dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2
  • gall ysgolion sy'n gallu dosbarthu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 1 a 2 (yn ogystal â'r Dosbarth Derbyn) wneud hynny o fis Medi

Bydd y wybodaeth a ddarperir gan eich awdurdod lleol yn nodi pa mor gyflym y bydd prydau ysgol gynradd am ddim yn cael eu cyflwyno yn ysgol eich plentyn.

Gweithredu’r cynllun yn raddol

Mae cyfleusterau arlwyo pob ysgol yn wahanol. Bydd angen amser ar rai ysgolion cynradd i baratoi a threfnu’r gwaith ymlaen llaw sydd ei angen i feithrin capasiti arlwyo. Mae gwaith yn cael ei wneud mewn llawer o ysgolion cynradd fel bod ceginau yn gallu darparu ar gyfer nifer sylweddol uwch o blant i dderbyn prydau ysgol.

Cofrestru

Bydd angen i chi gofrestru eich plentyn ar gyfer prydau ysgol am ddim a bydd y wybodaeth yma’n cael ei darparu gan ysgol neu Awdurdod Lleol eich plentyn dros y misoedd nesaf.

Er mwyn i ysgol eich plentyn gyfri cyfanswm nifer uwch y plant sydd angen prydau ysgol, efallai y gofynnir i chi gofrestru. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd budd-daliadau cysylltiedig eraill yn cael eu heffeithio.

Ni fydd gweithredu’r cynllun cyffredinol yn effeithio ar blant hŷn sy’n derbyn neu’n gymwys i wneud cais am bryd ysgol am ddim ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.