Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cartrefi a'r busnesau sydd heb gyswllt band eang cyflym iawn eto yn cael cyfle i roi gwybod i Llywodraeth Cymru wrth iddi gynllunio sut i gysylltu'r cartrefi a'r busnesau anoddaf eu cyrraedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae dros 645,000 o safleoedd yng Nghymru wedi cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn, diolch i Cyflymu Cymru, ac erbyn diwedd y flwyddyn, disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 690,000. 

O 2018, bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio ar sut i gyrraedd yr ychydig y cant o gartrefi a busnesau sydd heb gyswllt eto â band eang cyflym iawn. Er mwyn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud yn iawn, mae angen clywed gan y rheini sydd heb gyswllt cyflym iawn. 

Mae rhestr o eiddo posib wedi'i chyhoeddi ac mae ar gael ichi gynnig sylw arni tan 13 Gorffennaf. Mae map rhyngweithiol wedi'i baratoi hefyd i helpu trigolion a busnesau weld a ydyn nhw ar y rhestr. Mae Llywodraeth Cymru am glywed hefyd oddi wrth gymunedau sydd am geisio ateb eu problemau eu hunain. 

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Gyda dros wyth o bob deg eiddo yng Nghymru bellach yn gallu cysylltu â band eang cyflym iawn, mae'r sefyllfa wedi gwella'n aruthrol. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros hanner yn 2014.  I Cyflymu Cymru mae'r diolch mwyaf am hyn a bydd y cynllun yn para tan ddiwedd y flwyddyn. 

"Fodd bynnag, rydym bellach yn edrych ar yr ychydig y cant o eiddo nad yw Cyflymu Cymru neu gwmni telathrebu wedi'u cysylltu eto. I wneud yn siwr bod y gwaith rydyn ni'n ei wneud o 2018 ymlaen mor effeithiol â phosib, mae angen arnon ni glywed oddi wrth bawb sydd heb gyswllt band eang cyflym iawn a gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. 

“Bydd yr ymgynghoriad yn helpu inni fireinio ymhellach y rhestr o safleoedd sydd heb eu cysylltu.  Mwya'n y byd o ymatebion a gawn, mwyaf cynhwysfawr fydd y rhestr.

“Os oes gan gymunedau ddiddordeb datrys eu problemau eu hunain, hoffwn glywed ganddynt.

"Dyma'ch cyfle i ddylanwadu ar yr hyn fydd yn digwydd gyda'r ychydig y cant o safleoedd yng Nghymru sydd heb eu cysylltu â band eang."

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/mynediad-i-fand-eang-y-genhedlaeth-nesaf-yng-nghymru.