Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Heléna Herklots CBE fydd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Heléna yn Brif Weithredwr Carers UK ar hyn o bryd, yr elusen aelodaeth genedlaethol ar gyfer y 6.5 miliwn o ofalwyr sydd i'w cael yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi fwy na 30 o flynyddoedd o brofiad yn cefnogi pobl hŷn a gweithio gyda hwy. Cafodd ei gwaith gyda gofalwyr ei gydnabod gyda CBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2017.

Cafodd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei chreu gan Lywodraeth Cymru yn 2008, ac mae’n llais annibynnol ac eiriolwyr dros bobl 60 oed a hŷn ym mhob cwr o Gymru. Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei yrru gan yr hyn mae pobl hŷn yn dweud sydd bwysicaf iddyn nhw, ac mae’n sicrhau mai eu llais hwy sy’n ganolog i bopeth y mae’r Comisiynydd yn ei wneud.

Mae’r Comisiynydd yn:

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru 
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru 
  • annog arferion gorau wrth drin pobl hyn yng Nghymru 
  • adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Mae gan y Comisiynydd amryw o bwerau cyfreithiol i helpu i wireddu’r newid y mae pobl hŷn am ei weld.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:

“Dw i’n falch iawn o gyhoeddi bod Heléna Herklots wedi cael ei phenodi yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

“Mae’r Comisiynydd yn llais ac yn eiriolwr dros bobl hŷn ar draws Cymru, ac mae’n gwrando ar eu barn a’u pryderon ac yn gweithredu er eu lles. Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Heléna yn eu rôl newydd.”

Prif Weinidog Cymru sydd wedi gwneud y penodiad newydd, yn dilyn proses benodiadau cyhoeddus lawn. Roedd y broses honno yn cynnwys cynrychiolwyr pobl  hŷn yn ogystal â grŵp o Aelodau Cynulliad a oedd yn cynrychioli’r amrywiol bleidiau.

Mae Heléna yn cymryd yr awenau oddi wrth Sarah Rochira, y Comisiynydd presennol.

Dywedodd Heléna Herklots:

“Mae’n fraint ac anrhydedd cael fy mhenodi yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl ledled Cymru yn y rôl allweddol hon i ddiogelu hawliau pobl hŷn a’u hyrwyddo.”

Bydd Heléna yn cael ei phenodi am dymor o bedair blynedd i gychwyn, a bydd yn dechrau ar ei rôl fel y Comisiynydd ym mis Awst. Mae’r Comisiynydd yn derbyn tâl o   £90,000 y flwyddyn.