Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi cynlluniau i helpu cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog sy'n pontio yn ôl i fywyd fel sifiliaid i ddod o hyd i lety ac osgoi bod yn ddigartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau y Llwybr Tai ar gyfer cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn ystod ymweliad â Tŷ Dewr - cyfleuster sy'n darparu llety i gyn-filwyr yn Wrecsam.

Mae'r Llwybr Tai wedi cael ei ddatblygu gyda'r sector tai a'r Lluoedd Arfog, a dywedwyd mai un o brif bryderon y rheini sy'n gadael y Lluoedd Arfog yw cael llety addas iddyn nhw a'u teuluoedd, a'r cymorth sydd ar gael.

Nod y Llwybr Tai yw helpu aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd i wneud penderfyniad deallus am eu dewis o ran llety wrth bontio yn ôl i fywyd fel sifiliaid.

Wrth lansio'r Llwybr Tai, dywedodd Carl Sargeant:

"Mae symud nôl i fywyd fel sifiliaid yn gallu bod yn broses anodd i rai. Bwriad y Llwybr Tai yw gwneud y broses yn haws, ac helpu cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd i ymgartrefu nôl yn eu cymunedau.

"Mae Tŷ Dewr yn leoliad addas i lansio'r Llwybr Tai.  Wrth gefnogi cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i fod yn annibynnol unwaith eto, gallan nhw symud ymlaen â'u bywydau.

"Bydd y Llwybr Tai ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei anfon at yr holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys yr Weinyddiaeth Amddiffyn, i gael ei ddosbarthu i aelodau'r Lluoedd Arfog yn ystod eu cyfnod pontio."