Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, â Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful yr wythnos hon i weld y gwaith y maent yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd gwaith i bobl anabl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful yn weithdy lle mae staff yn gwneud cynhyrchion o bren i'r diwydiant dodrefn gan ddefnyddio cyfarpar torri manwl a botymau. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth ailgylchu cardfwrdd.

Cyflogir pobl o bob rhan o dde Cymru sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n ei gwneud yn anodd iddynt ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae diweithdra ac anweithgarwch economaidd wedi gostwng yng Nghymru o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir yn y Cynllun Cyflogadwyedd a gyhoeddodd yn ddiweddar ei bod yn benderfynol o fynd gam ymhellach i gau'r bwlch rhwng Cymru a'r DU o ran anweithgarwch economaidd.

Mae'r ystadegau'n dangos hefyd mai cyfran y bobl anabl* ym Mhrydain Fawr sy'n gallu gweithio ond sy'n ddi-waith yw 9.2% - mwy na ddwywaith yn fwy na'r gyfran o'r rheini nad ydynt yn anabl, sef 3.6% ar hyn o bryd.

Un o'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflogadwyedd yw darparu dull unigol o fynd ati i gynnig cymorth i hybu cyflogadwyedd sy'n ymateb i anghenion unigolion ac yn ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, doniau ac uchelgeisiau. Mae sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl anabl ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith yn rhan allweddol o hyn.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd yn cydnabod bod gan wahanol bobl rwystrau gwahanol sy'n eu hatal rhag gweithio.  I bobl anabl, gall rhai o'r rhwystrau fod yn ffisegol ond yn aml iawn maent yn deillio o amharodrwydd cyflogwyr i gyflogi pobl anabl. Rwy'n benderfynol o fynd i'r afael â hyn a byddaf yn siarad â rhai o'r prif gyflogwyr ar draws Cymru dros yr haf i weld sut y gallwn eu helpu i oresgyn hyn.

“Mae sefydliadau fel Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful yn gwneud gwaith rhagorol i sicrhau bod gan bobl anabl sgiliau a phrofiad a'u bod yn cael cyfle i ddangos i gyflogwyr eu bod yn aelodau gwerthfawr a dibynadwy o'r gweithlu.”

* Yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o anabledd.