Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi galw ar brifysgolion, colegau, ysgolion, dysgwyr a busnesau yng Nghymru i rannu eu barn ar addysg ac ymchwil ôl-16.
Mae'r papur tystiolaeth, Dyfodol Addysg Drydyddol yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw yn nodi'r heriau sy'n wynebu addysg bellach ac uwch yng Nghymru ac yn gwahodd y sector addysg ôl-16 i helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth a fydd yn llywio polisi yn y dyfodol ac yn mynd i'r afael â'r heriau hyn.
Mae'r papur yn nodi heriau allweddol y mae'r sector addysg ôl-16 yn eu hwynebu ac yn gwahodd y sector i ateb cwestiynau ar y meysydd hynny y byddai goleuni pellach arnynt o’r budd mwyaf i helpu i lunio polisïau.
Mae'r heriau hyn yn cynnwys bylchau o ran y grwpiau sy'n manteisio ar addysg ôl-16, costau cynyddol i ddysgwyr a sefydliadau, newidiadau demograffig, cystadleuaeth rhwng darparwyr addysg, a diwallu anghenion sgiliau ac ymchwil economi Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
Mae'r heriau sy'n wynebu ein system addysg ôl-16 yn rhy gymhleth i ni eu datrys ar ein pen ein hunain. Mae gan brifysgolion, colegau, ysgolion, cyflogwyr a dysgwyr ddealltwriaeth hanfodol am beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, a beth sy'n bosibl.
Rydyn ni eisoes wedi cyflwyno newidiadau i'r sector ôl-16, gan gynnwys sefydlu Medr a chynnal ein dull o gefnogi myfyrwyr, ond allwn ni ddim anwybyddu bod yna heriau pellach y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw.
Mae'r alwad hon am dystiolaeth yn gyfle i adeiladu ar ein cynnydd, a bydd eich arbenigedd chi yn helpu i lywio dyfodol Cymru. Dyma'ch cyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad dyfodol eich sefydliad, eich staff, eich dysgwyr a'ch cymunedau.
Byddaf yn ymweld â Phrifysgol Bangor a Choleg Meirion Dwyfor yr wythnos yma i siarad â staff a myfyrwyr a chlywed eu barn ar yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Bydd y sgyrsiau hyn yn cefnogi'r drafodaeth sydd eisoes yn cael ei chynnal â'r sector, a byddant yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn.
Rwy'n annog pawb sy'n ymwneud ag addysg ôl-16 i fanteisio ar y cyfle a bod yn rhan o'r sgwrs hon.
Mae'r alwad am dystiolaeth ar agor o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
