rgb(0,0,0)
rgb(30,37,79)
Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach
Helpwch Ni i'ch Helpu Chi
Mae sawl ffordd o gael y gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.
O fferyllwyr i unedau mân anafiadau a llinellau cymorth iechyd meddwl i ymgyngoriadau ar-lein, mae llawer o ffyrdd o gael mynediad i’r GIG yng Nghymru.
Felly mae’n haws cael gofal, cymorth a chyngor ar gyfer cyflyrau newydd neu gyflyrau sydd gennych yn barod, hyn yn oed heb adael eich cartref neu’ch gweithle.
Cymorth gan y GIG

Dewch o hyd i wasanaethau iechyd sy’n agos atoch chi, megis: deintyddion, fferyllwyr, optometryddion, meddygon a gwasanaethau ysbyty.

Ddim yn siŵr pa wasanaeth i’w ddefnyddio? Defnyddiwch y gwirydd symptomau ar-lein i’ch cyfeirio at y lle cywir.

Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol sy’n cynnal y gwasanaethau GIG yn eich ardal.
Hunanofal

Gallwch gael ymgynghoriad a thriniaeth am ddim ar gyfer 27 o gyflyrau cyffredin mewn fferyllfa leol.

Gallwch gael cyngor am ddim gan eich fferyllydd ar feddyginiaeth, brechu, rhoi’r gorau i ysmygu a materion eraill – yn aml heb apwyntiad.

Darganfyddwch sut y gall pecyn cymorth cyntaf sydd â stoc dda gartref eich helpu i drin mân friwiau, cnociau a chrafiadau.
Cadw’n iach wrth aros am driniaeth

Ymunwch â chymuned sy’n rhannu ryseitiau iach, awgrymiadau a chyngor ar reoli’ch pwysau a’ch iechyd.

Gallwch gael cyngor, awgrymiadau a dulliau ar gyfer cadw’n heini ac yn iach wrth ichi aros am driniaeth.

Darganfyddwch fwy am gymryd rhan mewn chwaraeon ar unrhyw lefel o allu.
Gofalu am eich iechyd meddwl

Gallwch gael cymorth gan linell wrando gyfrinachol a chymorth emosiynol sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd.

Gallwch gymryd cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) am ddim ar-lein i helpu gyda gorbryder ac iselder.

Gallwch gael cymorth ar gyfer eich lles meddyliol. Mae’r adnoddau yn ddiogel, am ddim, ac nid oes angen atgyfeiriad.