Neidio i'r prif gynnwy

Ar drothwy’r gêm bêl-droed a gynhelir rhwng Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau fideo sy’n dangos chwech o henebion eiconig wedi’u goleuo’n goch fel arwydd o gefnogaeth i’r tîm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff fersiwn unigryw ar y delyn o’r gân ‘Zombie Nation’, sy’n un o ffefrynnau   cefnogwyr pêl-droed ei chwarae yn ystod y fideo sy’n dangos cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Chaerffili ynghyd â Chastell Coch ac Abaty Tyndyrn.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddigwyddiadau Mawr a Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru:

“Mae hon yn adeg ardderchog i fod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ac fel cenedl rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r tîm wedi’i gyflawni.

"Ar ddechrau’r gystadleuaeth hon roedd yna ymdeimlad gwirioneddol mai dim ond y dechrau i’r tîm talentog hwn o Gymru oedd ennill ei le yn y bencampwriaeth ac wedi inni ennill 2-1 yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn ddiwethaf, ymddengys fod yr         ymdeimlad hwnnw’n eithaf agos ati.

“Lloegr yw ein cymydog daearyddol agosaf yn y DU, felly roedd yn anorfod y byddai tipyn o edrych ymlaen at y gêm rhwng Cymru a Lloegr. Mae gennym dîm hynod   dalentog ac yn sicr y nod yw ceisio ennill yn erbyn Lloegr heddiw. Rwy’n edrych   ymlaen at weld ein chwaraewyr yn rhedeg allan ar y cae yn Lens a chynrychioli Cymru unwaith eto ar lwyfan y byd."

Hefyd, pe bai tîm Cymru’n llwyddo i gyrraedd yr 16 olaf yn y bencampwriaeth, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi addo y byddai Llywodraeth Cymru yn caniatáu i bobl gael mynediad am ddim i safleoedd sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Cadw. Ddydd Sul 26 Mehefin yw’r dyddiad sydd wedi’i neilltuo ar gyfer hynny.

Ychwanegodd:

“Byddwn wrth fy modd pe bawn yn gallu cynnig mynediad am ddim am un diwrnod i gestyll hanesyddol a henebion Cymru pe bai tîm Cymru’n cyrraedd yr 16 olaf.

“Pe bawn yn cyrraedd mor bell â hynny, gobeithiaf y bydd pobl o Gymru yn        manteisio’n llawn ar y cyfle hwn ac yn mwynhau diwrnod llawn hwyl o fewn muriau ein hadeiladau mwyaf eiconig.”

Yn ogystal â goleuo Canolfan y Mileniwm, y Senedd a Pharc Cathays yng      Nghaerdydd, mae’n fwriad gennym oleuo’r rhestr isod o safleoedd Cadw:

  • Castell Biwmares
  • Castell Caernarfon
  • Castell Caerffili
  • Castell Coch
  • Castell Cas-gwent
  • Castell Conwy
  • Castell Coety
  • Castell Cricieth 
  • Castell Dinbych
  • Castell Harlech
  • Castell Cydweli
  • Castell Llansteffan
  • Abaty Tyndyrn