Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarch grŵpiau Beavers, Cubs, Scouts ac Explorer Scouts o ledled Cymru ar ôl iddynt lwyddo i gasglu rhyngddynt 17,600 o eitemau i’w hailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth Beavers, Cubs, Scouts ac Explorer Scouts o bob rhan o’r DU gymryd rhan yn yr her ‘Ready, Set, Recycle’ yr haf hwn, a arweiniodd at gasglu dros 77,000 o eitemau ar draws y DU.  

Roedd bum grŵp ar draws Cymru yn cystadlu i ailgylchu’r nifer mwyaf o eitemau pecynnu plastig, papur, cerdyn, metel a gwydr o’u cartrefi. Gwnaeth y pobl ifanc hefyd ddysgu am effeithiau amgylcheddol ailgylchu, er enghraifft os byddai pawb a wnaeth cymrid rhan yn y sialens ailgylchu un botel llaeth plastig yn fwy byddai hynni’n arbed digon o ynni ar gyfer pweru ysgol gynradd am fis a hanner – dros hanner tymor ysgol. 

Roedd yr her yn rhan o’r ymgyrch Ailgylchu dros Gymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflenwir gan WRAP Cymru. Trwy gydweithio â Chymdeithas y Scouts crëwyd yr her gyffrous hon a fyddai’n galluogi pobl ifanc i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu Bathodyn Gweithgaredd Cadwraeth Amgylcheddol.  


Dywedodd Cymdeithas y Scouts: 

“Un o brif nodau Cymdeithas y Scouts yw rhoi sgiliau bywyd i bobl ifanc. Gofalu am ein planed a mwynhau gwneud hynny yw un o’r sgiliau pwysicaf y gallant ei ddysgu. Roedd yr her yn ffordd wych a hwyliog o addysgu’r bobl ifanc ynghylch pwysigrwydd ailgylchu, a gwnaeth waredu camdybiaethau cyffredin ynghylch yr hyn y gallwn ei ailgylchu a’r hyn nad oes modd ei ailgylchu. Cawsom adborth positif iawn gan y grwpiau a fu’n rhan o’r her a gobeithiwn y gall Ailgylchu dros Gymru barhau i’n cynorthwyo i addysgu ein pobl ifanc ynghylch gofalu am ein byd!”


Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

”Mae Cymru ar y blaen o’i chymharu â gweddill y DU, ac yn llwyddo i ailgylchu 58% o’i gwastraff. Ardderchog yw gweld cenedlaethau’r dyfodol yn dangos diddordeb mewn ailgylchu. Hoffwn longyfarch y  grŵpiau Beavers, Cubs, Scouts ac Explorer Scouts  y Trallwng am gasglu rhyngddynt dros 17,000 o eitemau gwahanol o ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu. Rwy'n gobeithio bod yr her wedi bod yn un cyffrous i bawb.”

Caiff enw’r grŵp buddugol, a lwyddodd i ailgylchu’r casgliad mwyaf o ddeunyddiau, ei gyhoeddi ym mis Hydref.