Neidio i'r prif gynnwy

Cais cam 1

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais cam 1 ar gyfer pob cynnig prosiect gan ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael ar-lein. 

Mae'r canllawiau canlynol yn nodi gwybodaeth ychwanegol er mwyn helpu ymgeiswyr i lenwi'r ffurflen gais. 

Mae yna derfynau nifer geiriau mewn sawl rhan o’r cais, ac maent wedi’u nodi yn y blychau ymateb. Os ewch chi’r tu hwnt i'r terfynau hyn, byddwn yn diystyru pob gair sydd dros y terfyn geiriau. Oni bai y gofynnir yn benodol amdanynt, nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i chi ddarparu atodiadau ac ni fydd y gwerthuswyr yn adolygu'r atodiadau hynny.

1. Manylion Ymgeiswyr – prawf cymhwystra (PASIO/METHU)

1.1.    Sefydliad sydd â gofal am y grant

Dyma'r sefydliad fydd yn derbyn y grant. Bydd y sefydliad hwn yn gyfrifol am ymrwymo i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru a bodloni telerau'r grant.

1.2.    Prif Ymchwilydd - Er gwybodaeth

Manylion am ymchwilydd arweiniol y prosiect. Bydd yr holl ohebiaeth am y cais yn cael ei anfon at y prif ymchwilydd.

1.3.    Person awdurdodedig – Er gwybodaeth

Manylion unrhyw un sydd wedi'i awdurdodi i ohebu â Llywodraeth Cymru ynghylch y cais ar ran y prosiect. Os oes sawl person awdurdodedig rhowch yr holl fanylion.

1.4.    Ceisiadau ar y cyd – Er gwybodaeth

Ar gyfer ceisiadau ar y cyd, rhowch fanylion yr holl sefydliadau a fydd yn rhan o'r prosiect ymchwil.

1.5.    Tîm – Er gwybodaeth

Rhowch fanylion holl aelodau'r tîm. Dylech ddarparu arbenigedd pob aelod o'r tîm yn gryno.

1.6.    Ysgoloriaethau ymchwil – Er gwybodaeth

Os ydych chi'n cynnwys ysgoloriaeth ymchwil fel rhan o'ch cynnig prosiect ymchwil, dylech lenwi’r adran hon

2. Meini prawf cymhwystra

2.1.    Cyfnod ymchwil – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Nodwch ddyddiad cychwyn arfaethedig y prosiect. Rhaid iddo fod cyn 1 Mehefin 2024. Ni ddylai'r prosiect bara mwy na 24 mis. Bydd unrhyw ysgoloriaethau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn cael eu hystyried ar wahân a gallant barhau y tu hwnt i'r cyfnod ymchwil. Bydd unrhyw ysgoloriaeth ymchwil yn cael ei hariannu am hyd at 42 mis, a rhaid ei chychwyn erbyn 1 Tachwedd 2024.

2.2.    Cyfnod yr ysgoloriaeth ymchwil – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Os na fyddwch chi'n cynnig ysgoloriaeth ymchwil fel rhan o'r prosiect ymchwil, nodwch "amherthnasol" fel ymateb. Nodwch ddyddiad cychwyn arfaethedig unrhyw ysgoloriaeth. Rhaid iddo fod cyn 1 Tachwedd 2024. Ni ddylai'r prosiect bara mwy na 42 mis. 

2.3.    Goblygiadau moesegol yr ymchwil – Er gwybodaeth

Ystyriwch a oes unrhyw oblygiadau moesegol yn deillio o’ch ymchwil, er enghraifft: 

  • Ydy'r ymchwil yn cynnwys cyfranwyr dynol?  
  • Oes angen teithio i wledydd lle gallai diogelwch cyfranwyr at y prosiect fod mewn perygl? 
  • Allai'r ymchwil arwain at ganlyniadau niweidiol posibl i bobl, anifeiliaid neu'r amgylchedd?  
  • Os yw'r prosiect ymchwil yn cynnwys ymwneud â'r cyhoedd, ydych chi wedi ystyried materion amrywiaeth a chydraddoldeb priodol?

Os oes goblygiadau moesegol yn deillio o'ch ymchwil, nodwch natur y goblygiadau hyn a sut y byddwch yn mynd i'r afael â nhw. 

2.4.    Rheoli data – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Un o ofynion y grant yw bod rhaid rheoli'r holl ddata yn unol â pholisi rheoli a llywodraethu gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Ewch ati i adolygu'r polisi a chadarnhau y byddwch yn cydymffurfio ag e.

2.5.    Ymrwymiad i rannu data – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Hoffai Llywodraeth Cymru adeiladu gwybodaeth a data i gefnogi'r sector amrediad llanw ac mae'n credu bod setiau data a gesglir o ganlyniad i brosiectau yn adnodd pwysig sy'n rhaid ei reoli'n briodol. Felly, rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i rannu'r data a'r ymchwil sy'n deillio o'u prosiect. Bydd angen cynllun rheoli data amlinellol (OMDP) fel rhan o gam hwn y cais.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gael mynediad at yr holl bapurau, cofnodion, data neu gasgliadau heb eu cyhoeddi sy'n deillio o'r gwaith a wnaed o dan grant, ac efallai y bydd angen adneuo rhai ohonynt gyda Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddefnyddio gwybodaeth am ganlyniad dyfarniadau er mwyn adrodd am gyflawniadau e.e. mewn adroddiadau blynyddol. Gall Llywodraeth Cymru, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth fanwl am ganlyniadau'r gwaith a ariennir drwy grantiau i'w defnyddio mewn archwiliadau gwyddonol neu ariannol.

3. Disgrifiad o'r prosiect ymchwil

3.1.    Teitl y prosiect – Er gwybodaeth

Dylech ddefnyddio teitl y prosiect yn gyson ym mhob gohebiaeth am y cais, a dylai'r teitl hwnnw ddisgrifio'r gwaith sydd i'w wneud yn gryno. 

3.2.    Categori – Er gwybodaeth

Dilëwch fel sy’n briodol i ddewis categori/categorïau eich gwaith ymchwil. Mae prosiectau ymchwil sy'n perthyn i sawl categori yn dderbyniol.

3.3.    Crynodeb – Gwerthusir 

Dylai'r crynodeb fod yn ddealladwy i berson lleyg a gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio mewn deunyddiau cyfathrebu sy'n ymwneud â'r prosiect ymchwil.

3.4.    Amcanion - Gwerthusir

Dylech restru amcanion y prosiect arfaethedig yn nhrefn blaenoriaeth, a dylent fod yn rhai y byddai'r ymgeisydd yn dymuno i Lywodraeth Cymru eu defnyddio fel sail ar gyfer gwerthuso gwaith sy’n cael ei gwblhau gydag unrhyw grant a ddyfernir.

Dylai'r amcanion fod yn glir a chyraeddadwy. Dylai fod cysylltiad clir rhwng gwaith y prosiect ac amcanion arfaethedig y prosiect. 

3.5.    Cydnawsedd - Gwerthusir

Dylai'r ymgeisydd nodi sut y mae'r prosiect ymchwil arfaethedig yn cyd-fynd â nodau Her Môr-lynnoedd Llanw a blaenoriaethau ymchwil Llywodraeth Cymru. Gallai'r prosiect gyd-fynd ag un neu fwy o flaenoriaethau ymchwil. 

Dylid darparu gwybodaeth am sut y bydd gwaith y prosiect yn mynd i'r afael â'r amcanion ymchwil.

4. Gofynion cyllid

4.1.    Swm y grant y gofynnir amdano – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Rhowch gyfanswm y grant y gofynnir amdano gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r prosiect ymchwil. Bydd angen cyfiawnhad dros y costau yng ngham 2 y cais.

£250,000 yw'r grant mwyaf sydd ar gael.

4.2.    Pa % o'r costau economaidd llawn (fEC)[1]  mae'r grant y gofynnir amdano yn ei gynrychioli o gostau’r prosiect – Er gwybodaeth

Mae grantiau ar gael ar gyfer hyd at 100% fEC.

4.3.    Os nad yw'r grant y gofynnir amdano yn 100% o fEC nodwch ffynonellau cyllid eraill y prosiect – Er gwybodaeth

Os yw'r grant y gofynnir amdani gan Lywodraeth Cymru yn 100% o fEC, gadewch y tabl yn wag. Fel arall, rhowch fanylion y ffynonellau cyllid ychwanegol sydd eu hangen i dalu costau'r prosiect arfaethedig.

4.3.1.  Swm y grant  

Swm y grant mewn £  

4.3.2.  %fEC    

Cyfran yr fEC y mae'r grant yn ei chynrychioli

4.3.3.  Sefydliad sy'n rhoi grant  

Y sefydliad a fydd yn gwneud y grant  

4.3.4.  Statws dyfarnu grant

Statws y grant – e.e. wedi gwneud cais amdano, dan ystyriaeth, wedi'i gadarnhau

[1] fEC yw'r Gost Economaidd Lawn, a gyfrifir yn unol â methodoleg TRAC (Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio) (Prifysgolion a chyrff Addysg Uwch eraill) neu fethodoleg gyfatebol ar gyfer Sefydliadau Ymchwil eraill.

Ffurflen gais cam 2

Bydd yr adran hon o'r ffurflen gais yn cael ei defnyddio gan ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cais cam 1. Peidiwch â llenwi'r adran hon o'r ffurflen nes i chi gael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

5. Adolygiad o'r wybodaeth a ddarparwyd eisoes – er gwybodaeth

Dylech adolygu'r holl wybodaeth a ddarparwyd yng ngham 1 y cais, a nodi unrhyw newidiadau. Os oes newidiadau sylweddol, cysylltwch â Llywodraeth Cymru i drafod oherwydd gallai hyn gael effaith sylweddol ar gymhwystra’r ymgeisydd i gymryd rhan yng ngham 2 y broses grant. 

5.1.    Ymrwymiad i rannu data – Prawf Cymhwystra (PASIO/METHU)

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod setiau data sy'n cael eu casglu o ganlyniad i brosiectau yn adnodd pwysig sy'n rhaid ei reoli'n briodol. Er mwyn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru y bydd data ac allbynnau prosiect yn cael eu rheoli'n briodol, ac y byddant ar gael i ymchwilwyr eraill, mae angen Cynllun Rheoli Data amlinellol (ODMP) ar gyfer pob cais. Dylai'r ODMP nodi setiau data sy'n debygol o fod ar gael i'w harchifo a'u hailddefnyddio ar ddiwedd y grant a lle byddant yn cael eu storio a sut y byddant ar gael i'r cyhoedd. Dylai hefyd nodi lle bydd unrhyw bapurau ymchwil yn cael eu cyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gael mynediad at yr holl bapurau, cofnodion, data neu gasgliadau sydd heb eu cyhoeddi sy'n deillio o'r gwaith a wnaed o dan grant. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddefnyddio gwybodaeth am ganlyniad dyfarniadau er mwyn adrodd am gyflawniadau e.e. mewn adroddiadau blynyddol. Gall Llywodraeth Cymru, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth fanwl am ganlyniadau'r gwaith a ariennir drwy grantiau i'w defnyddio mewn archwiliadau gwyddonol neu ariannol.

6. Cynnig ymchwil – gwerthusir

6.1.    Disgrifiwch eich cynnig ymchwil sy'n nodi

  • Materion rhesymegol, gwyddonol a thechnolegol sylfaenol i fynd i’r afael â nhw.
  • Amcanion penodol y prosiect, gan gynnwys eu perthnasedd posibl i waith ymchwil y DU a rhyngwladol yn y maes, perthnasedd i Flaenoriaethau Ymchwil Llywodraeth Cymru a'r cyflawniadau a'r allbynnau a ragwelir, gan gynnwys setiau data
  • Methodoleg a dull. 
  • Risgiau a strategaethau lliniaru risgiau
  • Rhaglen a/neu gynllun ymchwil, tystiolaeth o fynediad at gyfleusterau, data, casgliadau gofynnol. 
  • Dull rheoli’r prosiect ac adnoddau, gan nodi'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa i bersonél sy'n gweithio ar y prosiect.

Dylid defnyddio'r adran hon i nodi eich cynnig ymchwil. 

6.2.    Disgrifiwch fanteision y prosiect i Gymru

Rhowch dystiolaeth o sut y bydd y gwaith rydych chi'n ei wneud o fudd i Gymru. Mae natur y budd yn debygol o amrywio o brosiect i brosiect, ond lle bo hynny'n bosibl, dylid meintioli'r buddion. Bydd y cwestiwn yn cael ei werthuso gan ystyried

A)  Hygrededd y buddion arfaethedig
B)  Graddfa'r buddion arfaethedig

7. Llinell amser – gwerthusir

7.1.    Darparwch amserlen glir ar gyfer gweithgareddau'r prosiect a chynnydd arfaethedig yr ymchwil drwy'r gwahanol gamau.

Ni ddylai'r prosiect bara mwy na 24 mis. Byddwn ni'n defnyddio'r adran hon i asesu'r dull arfaethedig, ac er mwyn monitro'r prosiect. Dylai'r amserlen ddangos bod yr ymchwil wedi'i gynllunio'n briodol a'ch bod wedi amcangyfrif yn ofalus yr amser sydd ei angen i'w chwblhau, gan gynnwys gweithgareddau lledaenu.

8. Tîm – gwerthusir

8.1.    Darparwch CV ar gyfer staff ymchwil a enwir (gan gynnwys Cyd-ymchwilwyr) neu ymchwilwyr gwadd.

Mae angen CV ar gyfer Prif Ymchwilwyr neu Gyd-ymchwilwyr hefyd. Ni ddylai pob CV fod yn fwy na 2 ochr A4

Dylid cyflwyno un atodiad sy'n cynnwys yr holl CVs. Confensiwn enwi ffeiliau: Dylech ddefnyddio'r canlynol: CVs_[Teitl y prosiect ymchwil]_[Enw'r sefydliad arweiniol]. Dylai pob CV ddilyn yr un fformat a dylent ddangos arbenigedd perthnasol y tîm yn glir.

8.2.    Sefydliadau partner – Er gwybodaeth

Os oes gan yr ymgeisydd fwy nag un sefydliad, rhaid i bob sefydliad nad yw'n sefydliad arweiniol ddarparu llythyr yn gwneud y canlynol:

  • Cadarnhau ymrwymiad i'r prosiect arfaethedig;
  • Esbonio'n glir werth, perthnasedd a manteision posibl y gwaith i bartner y prosiect;
  • Rhoi natur a gwerth cyfatebol unrhyw gyfraniad mewn nwyddau, a/neu ddatgan gwerth cyfraniad arian parod, a chyfnod cymorth; a
  • Disgrifio gwerth ychwanegol gyfraniad eich partner i'r prosiect

Dylech ddyddio'r llythyr a'i ysgrifennu pan fydd y cynnig yn cael ei baratoi. Dylid targedu'r llythyr yn benodol at y prosiect. Nid yw llythyr safonol sy'n datgan cefnogaeth i'r gwaith arfaethedig yn ddefnyddiol.

Rhaid atodi pob llythyr i'r cais. Dylid defnyddio'r confensiwn enwi ffeiliau LoS_[Enw'r sefydliad ar y cyd]_[Teitl y prosiect ymchwil].

8.3.    Hanes blaenorol

8.3.1.     Nodwch eich hanes perthnasol mewn perthynas â'r prosiect ymchwil arfaethedig. Dylai hyn gynnwys:

  • Crynodeb o ganlyniadau a chasgliadau gwaith diweddar yn y maes technolegol/gwyddonol sy'n rhan o'r cais ymchwil. 
  • Manylion unrhyw gydweithrediad perthnasol yn y gorffennol. 
  • Cysylltiadau â chyhoeddiadau gwyddonol neu dechnegol perthnasol. 
  • Lle mae'ch gwaith blaenorol wedi cael effaith academaidd neu economaidd-gymdeithasol sylweddol. 
  • Yr arbenigedd penodol sydd ar gael ar gyfer yr ymchwil yn y sefydliad cynnal ac unrhyw sefydliadau partner cysylltiedig.

Os yw'n berthnasol, dylech gynnwys dyfyniadau i ddangos tystiolaeth o'ch hanes. 

9. Ysgoloriaethau ymchwil

9.1.    Uned adrannol lle bydd y myfyriwr wedi’i gofrestru – Er gwybodaeth

Rhowch enw'r uned adrannol lle bydd y myfyriwr wedi’i gofrestru.

9.2.    Goruchwylydd arfaethedig

Rhowch enw goruchwylydd arfaethedig y myfyriwr. Dylai'r goruchwylydd fod yn rhan o dîm y prosiect arfaethedig, a'i CV wedi'i gynnwys yn y cyflwyniad a wnaed yn 8.1.

9.3.    Nodwch yr achos am gymorth ar sail yr ysgoloriaeth ymchwil 

Dylai gynnwys:

  • Datganiad cryno o'r pwnc PhD a chyfiawnhad dros hyd y rhaglen astudio.
  • Datganiad clir o sut mae hyn yn annibynnol ar y prif amcanion ymchwil a nodir yn y cynnig, ond yn ychwanegu gwerth atynt

10. Costau

10.1.    Rhowch eich costau manwl ar gyfer y cynnig ymchwil.

Dylid cyfrifo’r rhain yn unol â methodoleg TRAC (Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio) (Prifysgolion a chyrff Addysg Uwch eraill) neu drwy fethodoleg gyfatebol gan Sefydliadau Ymchwil eraill. 

Dylid cynnwys crynodeb ymdrech staff.

Atodwch eich costau yn Excel, gan ddefnyddio'r confensiwn enwi Costau_[Teitl y prosiect]_[Sefydliad Arweiniol].

Dylai'r costau gynnwys:

  • Costau uniongyrchol
  • Costau a ddyrennir yn uniongyrchol
  • Costau anuniongyrchol
  • Crynodeb ymdrech staff (y misoedd o ymdrech ar gyfer pob categori o staff a ddefnyddir ar y prosiect)

Os ydych chi'n bwriadu cefnogi ysgoloriaeth ymchwil drwy'r prosiect, dylech gynnwys costau'r ysgoloriaeth ymchwil a delir gan y grant yn eich costau.

Dim ond er mwyn talu £250,000 o'r costau y gellir defnyddio'r grant Her Môr-lynnoedd Llanw, ond os oes yna gyllid cyfatebol, gall cyfanswm y costau fod yn fwy na hyn.

10.2.    A fydd costau cyfarpar yn fwy na £25,000?

10.2.1.     Os bydd costau cyfarpar yn fwy na £25,00, mae'n ofynnol chwilio am 3 dyfynbris. Atodwch y tri dyfynbris a gafwyd.

10.3.    Nodwch gyfiawnhad ar gyfer adnoddau. Nodwch pam mae'r adnoddau rydych chi'n gofyn amdanynt yn briodol ar gyfer yr ymchwil arfaethedig gan ystyried natur a chymhlethdod y cynnig ymchwil. – Prawf cymhwystra (PASIO/METHU)

Mae angen mwy na dim ond rhestr o’r adnoddau sydd eu hangen yn yr ateb i'r cwestiwn hwn, gan eich bod eisoes wedi darparu rhestr o’r fath. Mae enghreifftiau o'r cwestiynau i'w hystyried yn cynnwys:

  • Ydy'r gwaith o gynnwys gwyddonol priodol neu anhawster technegol i warantu cyflogi Cynorthwyydd Ymchwil (RA)? Pam ydych chi'n gofyn am y lefel hon ar gyfer y Cynorthwyydd Ymchwil?
  • Os ydych chi'n bwriadu ymweld â phobl i drafod eich ymchwil, dylech esbonio pam mai nhw yw'r bobl iawn i siarad â nhw a sut y gallant eich helpu i gyflawni’ch amcanion. Os ydych chi'n bwriadu mynychu cynadleddau, dylech nodi manteision hynny a rhoi syniad o'r niferoedd rydych chi'n bwriadu eu mynychu yn ystod cyfnod y grant, pwy fydd yn eu mynychu a pha fath o gynadleddau ydynt - cenedlaethol/rhyngwladol/cyffredinol/pwnc penodol ac ati?
  • Ydych chi wedi neilltuo digon o amser i weithio gyda phartneriaid prosiect, ymchwilwyr gwadd a chydweithwyr eraill? Ai dim ond rheoli staff y prosiect fyddwch chi?
  • Pam ydych chi angen y cyfarpar hwn ar gyfer yr ymchwil arfaethedig? Ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio a phwy fydd yn ei ddefnyddio?

Wrth gyfiawnhau'r adnoddau, sicrhewch fod y costau/disgrifiadau yn cyfateb i'r rhai a ddarperir yng nghwestiwn 10.1 neu efallai y caiff eich cais ei wrthod.

10.4.    Os nad yw'r grant y gofynnir amdano ar gyfer 100% fEC, rhowch dystiolaeth o'r cyllid gofynnol arall a fydd ar waith erbyn dyddiad dechrau'r prosiect. – Prawf cymhwystra (Pasio / Methu)

Cyflwynwch dystiolaeth i ddangos y bydd cyllid arall ar waith ar gyfer y prosiect pe bai Llywodraeth Cymru yn dyfarnu'r grant i chi. Gallai enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys:

  • llythyr gan y corff dyfarnu yn nodi ei fwriad i ddyrannu cyllid i chi
  • llythyr o gefnogaeth gan bartner yn y sector preifat
  • tystiolaeth o arian ar gael gan y sefydliad arweiniol neu bartner e.e. papur penderfyniad y bwrdd

Rhaid atodi pob llythyr i'r cais. Dylid defnyddio'r confensiwn enwi ffeiliau GD_[enw darparwr y cyllid]_[Teitl y Prosiect Ymchwil].