Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid myfyrwyr yn helpu merch heini o Sir Gâr i wireddu breuddwyd prifysgol

Straeon addysg uwch: Sophie o Rydaman

Llwyddodd Sophie Hutchinson i gael pedair gradd B yr haf hwn mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Crefyddol a Hanes Safon Uwch, a Bagloriaeth Cymru, yn Ysgol Dyffryn Aman - gan sicrhau ei lle ar gwrs gradd Saesneg ym Mhrifysgol Caerlŷr.

Meddai Sophie:

“Hoffwn i gael swydd sefydlog, felly rwyf wedi meddwl am fynd i brifysgol erioed.

“Dyw fy nheulu i ddim yn arbennig o gefnog, felly er mod i eisiau mynd i’r brifysgol, byddai wedi bod yn benderfyniad go fawr petawn i’n gorfod cael benthyciad llawn i fyfyrwyr.

“Pe bawn i’n gorfod cael benthyciad cynhaliaeth llawn i dalu fy nghostau byw ar ben y benthyciad ffioedd dysgu, byddai’n dipyn o ben dost. Ond rwy’n cael grant o £8,100 i dalu fy nghostau byw bob blwyddyn o’r radd. A bydd gradd yn fy helpu i gael swydd dda lle bydda i’n gallu ad-dalu’r benthyciad ffioedd dysgu.

“Rwy’n chwilio am swydd ran-amser hefyd. Mae’r brifysgol yn cynnig swyddi ar y campws, ac rwyf wedi gwneud cais i fod yn llysgennad myfyrwyr, lle bydda i’n helpu ar ddiwrnodau agored, yn cynnal teithiau o amgylch y campws, y math yna o beth. Bydd yr incwm ychwanegol yn ddefnyddiol iawn.”

Roedd gwybod bod cymorth grant ar gael i dalu costau byw o gymorth i Sophie ddewis y brifysgol a’r cwrs addas iddi hi.

Ychwanegodd Sophie:
 
“Fy nghyngor i bobl sy’n meddwl dwywaith am fynd i brifysgol achos eu bod nhw’n meddwl na allan nhw fforddio hynny, yw cofiwch fod cymaint o gyfleoedd gwahanol i gael arian, yn enwedig trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, felly ymchwiliwch i hynny.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i brifysgol

Bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio