Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen (Dydd Gwener 11 Tachwedd), bydd rhieni, athrawon a'r cyhoedd yn ehangach yn cael eu holi am eu barn ynghylch cynlluniau i wneud newidiadau mawr i gyrff llywodraethu ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o gynigion newydd i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu benodi llywodraethwyr sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen, ac i drefnu eu hunain mewn ffordd sy'n bodloni eu hanghenion.

Mae'r rheolau presennol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion wedi bod mewn grym ers 1996.

Mae'r diwygiadau a gynigir yn cynnwys y canlynol:

  • Rhagor o hyblygrwydd o ran penderfynu ar eu strwythur a'u haelodaeth eu hunain, gan ganolbwyntio ar lywodraethwyr sydd â sgiliau.
  • Lleiafswm o saith o lywodraethwyr ym mhob ysgol heblaw ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu gynnwys llywodraethwyr sy'n cynrychioli'r rhieni, y staff, yr awdurdod lleol a'r gymuned, yn ogystal â phennaeth yr ysgol.
  • Cyflwyno categori newydd o 'lywodraethwyr cyfetholedig' a fydd yn cael eu penodi'n benodol oherwydd eu sgiliau. Ni fydd uchafswm ar nifer yr aelodau ar unrhyw fath o gorff llywodraethu.
  • Asesu'r aelodau i nodi unrhyw fylchau o ran y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol.
  • Ymestyn categori'r rhiant lywodraethwr fel bod rhiant lywodraethwyr yn cael eu penodi ar gyrff llywodraethu yn ogystal â'r rheini a etholwyd.
  • Rhoi'r hawl i ysgolion gael cynifer o riant lywodraethwyr ag y mynnant, cyn belled nad oes mwy o riant lywodraethwyr a etholwyd na rhiant lywodraethwyr a benodwyd.
  • Caniatáu i rieni cyn-ddisgyblion gael eu penodi'n rhiant lywodraethwyr a dileu'r system bresennol sy'n gosod cyfyngiadau ar nifer y rhiant lywodraethwyr a geir ar gyrff llywodraethu.
  • Rhoi'r gallu i gyrff llywodraethu gynyddu neu leihau nifer eu haelodau'n rhwyddach, gan gynnwys penodi 'aelodau cyswllt' neu rai nad ydynt yn llywodraethwyr i bwyllgorau, pryd bynnag y bo angen arbenigedd neu brofiad penodol.
  • Bydd y gofyniad i gynnwys unigolyn annibynnol yn cael ei estyn i bob pwyllgor disgyblu neu ddiswyddo staff, yn ogystal â phwyllgorau penodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid. Ar hyn o bryd, dim ond pan fo pwyllgor disgyblu neu ddiswyddo staff yn ymdrin â mater yn ymwneud â niwed i blentyn y mae'r gofyniad hwn yn gymwys.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae tua 23,000 o lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru sy'n rhoi o'u hamser yn wirfoddol i helpu i godi safonau yn ein hysgolion, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith maen nhw'n ei wneud.

“Fodd bynnag, er bod y byd wedi newid yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, nid felly ein system ar gyfer llywodraethu ysgolion. Nid oes gan gyrff llywodraethu ysgolion yr hyblygrwydd i addasu er mwyn bodloni anghenion penodol eu hysgolion.

“Rwy am wneud newidiadau fel bod gan lywodraethwyr ysgolion y sgiliau a'r gallu i chwarae rhan bwysig yn y broses o wella'r addysg rydyn ni'n ei darparu i'n disgyblion.”