Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle i weld sut mae sgiliau a phartneriaethau yn helpu busnes i arwain y ffordd wrth godi ymwybyddiaeth am dechnegau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Robert Price, cwmni deunyddiau adeiladu’n

Cwmni deunyddiau adeiladu’n arwain y ffordd

Robert Price yw cwmni deunyddiau adeiladu mwyaf de-ddwyrain Cymru. Mae ei rwydwaith o 28 o ganghennau’n cyflenwi adeiladwyr tai, contractwyr preifat a masnachol, cyrff cyhoeddus, hunan-adeiladwyr, masnachwyr lleol a DIY-wyr.

Sefydlwyd y cwmni gyntaf yn 1847 felly efallai nad yw’n syndod bod busnes sydd wedi mynd o nerth i nerth am dros 175 mlynedd bellach yn arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd.

Mewn ymateb i’r galw cynyddol am newid amgylcheddol, mae Robert Price wedi creu’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy. Fe’i dyluniwyd i arddangos ac addysgu cwsmeriaid am ystod eang o gynhyrchion arloesol a chynaliadwy, gan gynnwys pympiau gwres o’r aer a’r ddaear, paneli solar, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, storio batri, inswleiddio ar gyfer waliau mewnol ac allanol a hyd yn oed paent inswleiddio.

Kassie Williams yw Rheolwr Cynaliadwyedd y busnes:

Gwelsom gynnydd esbonyddol yn nifer yr ymholiadau gan gymdeithasau adeiladu am gynhyrchion datgarboneiddio. Roeddent eisiau dysgu mwy am y gwahanol gynhyrchion sydd ar gael ond ‘doedd neb yn cynnig atebion cydgysylltiedig. Dyma ni felly’n penderfynu sefydlu’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy.

Drwy weithio gyda gweithgynhyrchwyr arbenigol, mae ein cynhyrchion arbenigol i’w gweld mewn ystafell arddangos bwrpasol ac rydym yn cynnal diwrnodau agored rheolaidd gan wahodd timau awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddod i siarad â’r gwahanol gyflenwyr am eu cynhyrchion.

Ers sefydlu’r ganolfan, mae Robert Price wedi estyn allan ac ymgysylltu â dros 30 o landlordiaid cymdeithasol:

Rydym yn falch iawn o’n gwaith gyda landlordiaid cymdeithasol. Gan helpu i leihau carbon, mae cartrefi hefyd wedi eu hinswleiddio’n well ac yn cael eu gwresogi’n fwy effeithlon fel bod biliau’n rhatach. Yn fwy nag erioed, mae hyn yn flaenoriaeth uchel i denantiaid a phreswylwyr oherwydd bod prisiau ynni mor uchel. Mae cartref wedi’i inswleiddio a’i awyru’n dda hefyd yn creu amgylchedd byw iach a diogel. Mae’r technolegau a arddangosir wedi eu dylunio i leihau a chael gwared ar broblemau fel anwedd a thamprwydd sy’n creu problemau iechyd.

Er bod cynhyrchion cynaliadwyedd ar gael i’w prynu ym mhobman bron, roedd Robert Price yn cydnabod bod angen uwchsgilio a chynnig hyfforddiant achrededig i adeiladwyr, gosodwyr a masnachwyr er mwyn gallu eu gosod a’u cynnal. Penderfynodd y cwmni lansio academi hyfforddiant.

Ychwanegodd Kassie:

Er bod technolegau ac atebion newydd ar gael, mae angen hyfforddi neu ail-hyfforddi’r gweithlu adeiladu a gyda’r ymgyrch i greu sector cyhoeddus sero-net erbyn 2030, roeddem eisiau helpu i addysgu pobl mewn datgarboneiddio. Ac nid yn unig i bobl a gyflogir o’r newydd yn y sector, ond i’r gweithlu presennol hefyd.

Gall fod yn anodd annog contractwyr i gymryd amser allan o’u gwaith cyflogedig i fynychu hyfforddiant. Ond mae llawer wedi gallu defnyddio’r Cyfrifon Dysgu Personol sy’n cynnig cyrsiau a chymwysterau hyblyg ac sydd wedi eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cynnig cyrsiau a chymwysterau hyblyg fel y gall pobl hyfforddi o gwmpas cyfrifoldebau eraill. Mae cyfrifon PLA yn helpu unigolion sydd efallai eisiau symud ymlaen yn eu swydd neu newid gyrfa’n llwyr. I gefnogi ymdrechion Cymru i fod yn sero-net, mae’r cap cymhwyso ar gyflogau wedi’i godi i rai sy’n uwchsgilio neu ailsgilio yn y sectorau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu, diolch i fuddsoddiad ychwanegol o £2m gan Lywodraeth Cymru.

Gyda darparwr hyfforddiant trydydd parti, mae Robert Price hyd yma wedi darparu dros 6000 awr o hyfforddiant sgiliau gwyrdd, yn ogystal â 1500 awr arall o hyfforddiant ymwybyddiaeth addysg cynhyrchion.

Mae wedi cydweithredu â TPAS Cymru, sy’n gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i helpu i ddatblygu gwasanaethau tai, i gynnal Clwb Ymgysylltu Sero-Net ar gyfer staff tai cymdeithasol. Mae hefyd wedi mynd â’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy ar y ffordd gan estyn allan i dimau tai cymdeithasol drwy sioeau teithiol.

Yn ôl Williams, mae galwedigaethau eisoes yn esblygu o ganlyniad i’r ymgyrch sero-net yng Nghymru:

Mae gyrfaoedd traddodiadol, heb os, yn newid. Mae towyr bellach yn derbyn hyfforddiant mewn gosod paneli solar. Bydd angen i blastrwyr osod y gwres is-goch newydd. A byddwn yn gweld mwy fyth o newid yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r ymdrech fwyaf hyd yma wedi bod gyda landlordiaid cymdeithasol ond mae cartrefi preifat yn dechrau galw am ddeunyddiau adeiladu mwy ecogyfeillgar ac ynni-effeithlon felly bydd y sgiliau sydd eu hangen ar gontractwyr preifat hefyd yn esblygu.

Dusi Thomas yw Rheolwr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol Bron Afon, sy’n darparu tai cymunedol yn Nhorfaen:

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Robert Price a, diolch i’r rhaglen PLA, rydym wedi gallu datblygu’r sgiliau a’r capasiti iawn yn ein gweithlu a hefyd yn ein cadwyn gyflenwi. Rydym wedi gallu uwchsgilio un o’n contractwyr rheolaidd, a rhai staff mewnol hefyd, i wneud Asesiadau Ôl-osod.

Yn sicr mae’r rhaglen PLA yn helpu i gefnogi Bron Afon i ddarparu ein hymrwymiad strategol i ddatgarboneiddio cartrefi.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cynnig cyrsiau a chymwysterau hyblyg wedi eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl astudio’n rhan amser o gwmpas cyfrifoldebau eraill gan ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd ei angen arnynt i gefnogi neu newid gyrfa neu godi’n uwch mewn swydd bresennol. Mae’r astudio’n digwydd drwy goleg yng Nghymru, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, neu fel cyfuniad o’r ddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2m ychwanegol yn 2022 i 2023 i helpu unigolion i uwchsgilio neu ailsgilio yn y sectorau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu er mwyn helpu Cymru i gyrraedd sero-net. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn tynnu’r cap cymhwyso ar gyflogau gan roi ffocws ar gymwysterau diwydiant-gymeradwy.