Neidio i'r prif gynnwy
Huw Thomas

Huw Thomas yw Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce.

Mae Huw yn fab i ffermwr llaeth o Sir Benfro. Mae wedi treulio deng mlynedd ar hugain mewn rolau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth ledled y DU. Treuliodd ddeng mlynedd yn wyddonydd ymchwil yn Adran Geneteg Prifysgol Caergrawnt. Bu'n gweithio yn awdurdod Datblygu Cymru/yn nhîm Strategaeth Bwyd-Amaeth Llywodraeth Cymru. Treuliodd dair blynedd hefyd yn Bennaeth Strategaeth a Gwybodaeth am y Farchnad gyda DairyCo.

Mae gan Huw wybodaeth eang am y gadwyn cyflenwi bwyd:

  • gan amrywio o amaethyddiaeth sylfaenol, ymlaen i brosesu ac yna i’r rhyngwyneb â manwerthwyr mawr
  • ym maes ffermio, ymchwil a llywodraeth

Dychwelodd Huw i Sir Benfro i redeg Puffin Produce 10 mlynedd yn ôl. Yn y cyfnod hwnnw, mae Puffin wedi tyfu'n gyflym ond mewn ffordd gynaliadwy:

  • mae trosiant wedi tyfu o £9m i £30m
  • mae’r nifer a gyflogir wedi cynyddu o 45 i 175
  • sefydlwyd sawl perthynas gyflenwi hirdymor gydag Aldi, Asda, Co-op, JS, M&S, Morrisons, Spar, Tesco a Waitrose
  • datblygwyd brand 'Blas y Tir' sydd â gwerthiant manwerthu o dros £1 filiwn y mis. Mae'r brand bellach yn cael ei adnabod a'i brynu'n rheolaidd gan 40% o siopwyr Cymru. 
  • enillwyd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer Tatws Cynnar Sir Benfro, gan gynyddu gwerthiant 40%
  • rhoddwyd rhaglen CapEx gwerth £13m ar waith, gan greu un o'r ffatrïoedd tatws mwyaf effeithlon yn y DU

Mae gan Huw ddwy ferch 11 a 12 oed ac mae'n mwynhau gwylio chwaraeon a chymdeithasu yn ei amser hamdden.