Bydd canol trefi ledled Cymru yn cael eu trawsnewid wrth i £12.6 miliwn ychwanegol gael ei fuddsoddi mewn prosiectau adfywio o Abertawe i Gasnewydd.
Cyhoeddwyd y cyllid newydd ddoe (dydd Iau, 26 Mawrth 2026) gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, yn ystod ymweliad â'r prosiect Byw Bioffilig yn Iard Mowbray, Abertawe.
Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi prosiectau fel ailddatblygu 1 Stryd Rhydychen a Cham 2 prosiect Olwyn y Crochenwyr yn Abertawe, ailddatblygu Synagog Merthyr sy'n Adeilad Rhestredig Gradd II, a datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Adamsdown, Sblot, Butetown a Bae Caerdydd.
Ers ei lansio, mae'r rhaglen wedi dyfarnu dros £494 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi gwaith adfywio ledled Cymru. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yn derbyn cyllid gan y rhaglen Trawsnewid Trefi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Nid yw'r cyllid hwn yn ymwneud â seilwaith yn unig - mae'n ymwneud â chreu newid gwirioneddol, diriaethol i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.
Trwy adfywio canol trefi, cefnogi busnesau lleol, a gwella mannau cyhoeddus, rydym yn helpu i adeiladu lleoedd lle gall cymunedau ffynnu yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Rydym yn gwybod mai strydoedd mawr cryf a bywiog yw asgwrn cefn twf economaidd ehangach ledled Cymru. Pan fydd canol ein trefi yn llwyddo, maen nhw'n denu buddsoddiad, yn creu swyddi, ac yn darparu cyfleoedd sydd o fudd i'r rhanbarth cyfan.
