Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn hwb ariannol o £570,000 gan yr UE, bydd prosiect i wella sgiliau a chyfleoedd swyddi pobl o leiafrifoedd ethnig a chymunedau mudol yn cael ei ehangu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Sova Cymru yn ehangu’r prosiect Sicrhau newid trwy Gyflogaeth ledled Cymru, gan ei gyflwyno yn Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd 250 yn rhagor o unigolion yn elwa ar y cynllun hwn sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi, cyfleoedd i ennill cymwysterau a phrofiadau gwaith a gwirfoddoli.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod y cyllid hwn ar gael. Bydd yn galluogi Sova Cymru i greu mwy o gyfleoedd i bobl o gymunedau lleiafrifol ac yn helpu i ddatblygu cymdeithas ac economi sy’n cynnwys pawb yma  yng Nghymru.

"Dyma enghraifft gadarnhaol arall sy'n dangos bod arian yr UE yn helpu i wella sgiliau a dyfodol pobl Cymru wrth fuddsoddi mewn prentisiaethau, cynlluniau hyfforddi, rhaglenni i gefnogi graddedigion a phrosiectau i ddatblygu sgiliau gweithgynhyrchu o safon."

Mae’r prosiect yn helpu i wella llythrennedd, rhifedd a sgiliau personol yr unigolion sy’n cymryd rhan, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, sydd â phrinder sgiliau, anableddau neu gyfrifoldebau gofalu.

Nodwedd allweddol o'r prosiect yw'r gwaith mentora un i un a’r gefnogaeth bersonol barhaus gaiff ei rhoi gan wirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio a'u hyfforddi yn eu cymunedau lleol.

Mae cymorth arbenigol wrth chwilio am swyddi a thrafnidiaeth yn cael ei gynnig fel rhan o’r prosiect hefyd.

Dywedodd prif swyddog gweithredol Sova, Sophie Wilson: 

“Ry’n ni wrth ein boddau yn Sova ein bod yn gallu cynnal prosiect Sicrhau newid trwy Gyflogaeth. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y Gorllewin a’r Cymoedd, bydd yr arian hwn yn cefnogi gwasanaethau ar gyfer pobl o gefndiroedd lleiafrifol drwy Gymru gyfan.

“Ry’n ni’n ymwybodol o bwysigrwydd rhoi cymorth arbenigol i’r unigolion hynny sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i gael addysg, hyfforddiant a swyddi. Gyda’r gefnogaeth gywir ry’n ni o’r farn y gall unigolion o gymunedau mudol a lleiafrifoedd ethnig hefyd lwyddo a ffynnu, a bydd ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig wrth law i wireddu hyn.”