Bydd dros £740,000 o gyllid Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru yn helpu i ysbrydoli miloedd yn rhagor o blant ledled De-ddwyrain Cymru i archwilio gyrfaoedd seiberddiogelwch.
Bydd y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yn defnyddio'r buddsoddiad i ehangu ei rhaglen allgymorth addysg seiberddiogelwch i 10,000 o ddysgwyr ledled y rhanbarth.
Mae NDEC yn darparu gweithgareddau rhyngweithiol ar fforensig ddigidol, seiberdroseddu a diogelwch ar y rhyngrwyd i blant ysgol gynradd.
Bydd y cyllid yn galluogi darparu'r gweithgareddau hyn yn ddwyieithog, cyflwyno hyfforddiant newydd ar AI a chynaliadwyedd, ac yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau fel costau trafnidiaeth ac offer i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.
Wedi'i chyflwyno gan Thales a Phrifysgol De Cymru, a'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn annog pobl ifanc i ddilyn addysg a gyrfaoedd ym meysydd seiberddiogelwch a chyfrifiadura.
Mae'r ehangu hwn yn adeiladu ar lwyddiant y cam cyntaf, a gyrhaeddodd 216 o ysgolion a 20,000 o ddysgwyr ledled De-ddwyrain Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:
Bydd y sgiliau hanfodol hyn yn helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein wrth agor y drysau i yrfaoedd gwerth chweil.
"Bydd ein buddsoddiad yn helpu i ysbrydoli mwy o fyfyrwyr, meithrin diddordeb cynnar mewn gyrfaoedd digidol, a chefnogi datblygiad gweithlu seiber yn y dyfodol - ac rwy'n falch iawn y gellir cyflwyno'r rhaglen hon yn ddwyieithog."
Ar hyn o bryd mae NDEC yn cyflwyno gweithgareddau fforensig digidol pum wythnos o hyd i fyfyrwyr Blwyddyn 5 o Ysgol Y Graig ym Merthyr Tudful.
Mae'r myfyrwyr wedi bod yn dysgu am seiberdroseddu a diogelwch ar-lein ac yn ddiweddar maent wedi ymgymryd â rôl ymchwilwyr fforensig digidol - gan weithio mewn grwpiau i gasglu tystiolaeth o leoliad trosedd ffug, y byddant yn ei dadansoddi mewn sesiwn ddiweddarach.
Dywedodd athro Ysgol Gynradd Ysgol y Graig, Matthew Howells:
Mae'r prosiect fforensig digidol yn brofiad hollol anhygoel i'r plant. Mae'r ystod o weithgareddau y maent yn eu cwmpasu a'r profiad ymgolli o ddadansoddi'r Jaguar, yn rhoi ystod eang o gyfleoedd gyrfa i'r plant yn y dyfodol ac yn datblygu mwy o angerdd am STEM. Mae ystod eang o sgiliau yn cael eu datblygu ar draws y 5 sesiwn prosiect ac mae'r cyfle i weithio gyda modelau rôl STEM yn fudd ychwanegol i'r plant."
Dywedodd arweinydd hyfforddi NDEC, Lisa Cornford:
Rydym yn hynod falch bod NDEC yn parhau i godi dyheadau ledled De-ddwyrain Cymru, gan helpu pobl ifanc i gredu yn yr hyn y gallant ei gyflawni. Mae'r estyniad hwn yn caniatáu inni gyrraedd mwy o ddysgwyr, ysbrydoli hyder, a chyflwyno cyfleoedd yn y byd digidol nad oeddent efallai wedi'u hystyried o'r blaen."
Dywedodd Leanne Connor, Arweinydd Strategol Cymru, Thales UK:
Yn Thales, rydym yn gwybod bod sbarduno diddordeb cynnar mewn seiberddiogelwch yn helpu i ddatblygu sylfeini cryf ar gyfer dysgu STEM. Drwy roi gweithgareddau rhyngweithiol i’r plant gymryd rhan ynddynt, rydym yn tanio chwilfrydedd mewn gyrfaoedd digidol ac yn rhoi’r sgiliau hanfodol i’r genhedlaeth nesaf i ffynnu yn sector technolegol Cymru sy’n datblygu’n gyflym.”
