Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi heddiw y bydd pobl â chyflyrau hirdymor eraill yn cael mynediad at wasanaethau COVID hir Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cyllid blynyddol y Gwasanaethau Adferiad yn codi i £8.3 miliwn. Bydd y gwasanaethau adfer yn y gymuned yn parhau i gefnogi pobl gyda COVID hir ond byddant hefyd ar gael i bobl â chyflyrau hirdymor eraill y mae eu hadferiad yn debyg. Gall hyn gynnwys pobl ag enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig (ME/CFS), ffibromyalgia a chyflyrau eraill yn dilyn feirws.

Bydd y cyllid hefyd yn parhau i gefnogi’r ap adfer hunan-reoli COVID a’r canllawiau Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir.

Mae Gwasanaethau Adferiad yn rhoi diagnosis, triniaeth, cymorth adsefydlu, a gofal i bobl sy’n profi effeithiau hirdymor yn sgil COVID-19. Maent wedi’u cynllunio i ymateb i anghenion penodol pob unigolyn gan ddarparu gofal mor agos at y cartref â phosibl. Caiff pobl eu cynorthwyo gan dimau amlbroffesiynol gan gynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a nyrsys. Os bydd angen gofal mwy arbenigol, gellir atgyfeirio pobl i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.

Ers lansio’r rhaglen Adferiad yn 2021, mae mwy na £10 miliwn wedi’i fuddsoddi i gefnogi datblygu’r gwasanaethau adfer a’r gwasanaethau adsefydlu amlbroffesiynol integredig yn y gymuned ym mhob ardal bwrdd iechyd. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd y gweithlu.

Mae adolygiad chwe misol diweddaraf y rhaglen yn rhoi sicrwydd pellach bod gwasanaethau Adferiad yn parhau i ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. Rhoddodd y rhan fwyaf o bobl wybod fod ansawdd eu bywyd wedi gwella, a’u bod wedi cael profiad cadarnhaol o ran y gwasanaethau a gawsant.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19 wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac mae hynny’n parhau. Mae gennym ased cymunedol gwerthfawr o ganlyniad i ddatblygu’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i ni barhau i’w feithrin ac i fanteisio arno.

Gwyddom fod llawer o bobl â chyflyrau hirdymor eraill wedi teimlo yn ‘anweledig’ a theimlo nad oedd pobl yn eu deall. Drwy ehangu mynediad at wasanaethau adferiad gallwn roi gwell cymorth i bobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia i gael diagnosis, rheoli eu symptomau a chael mynediad at wasanaethau adferiad sy’n hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.

Rwyf wedi ymrwymo i ehangu capasiti ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae’r buddsoddiad rheolaidd hwn, sy’n ategu cyllid arall i ehangu’r capasiti gofal sylfaenol a chymunedol a ddarperir i’r GIG, i awdurdodau lleol ac i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cefnogi ein huchelgais i wella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol a datblygu gwasanaethau gofal cymunedol ymhellach.

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

Rydym wrth ein boddau o fod wedi cael y cyllid rheolaidd hwn. Bydd yn ein galluogi i recriwtio i nifer o swyddi, diogelu swyddi, a sefydlu gwasanaethau holistaidd ar gyfer ystod eang o bobl sydd â chyflyrau heriol, gan gynnwys ME a CFS, yn ogystal â COVID hir.

Mae llawer o bobl gyda’r cyflyrau hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion iechyd wedi’u bodloni dros y blynyddoedd, a bydd hyn yn ein galluogi i’w cysuro y bydd gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi, a fydd yn gallu eu cynorthwyo i reoli eu cyflyrau unigol.