Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £2 miliwn o gyllid ychwanegol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y cyhoeddiad wrth agor Tŷ Rothbury yng Nghasnewydd yn ffurfiol. Sefydlwyd canolfan New Pathways, sy'n darparu gwasanaethau cwnsela i oroeswyr trais rhywiol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ailddatblygwyd hen gartref nyrsio a'i droi'n ganolfan gymorth, a chafodd gyllid ychwanegol ym mis Mawrth i ddarparu mesurau diogelwch newydd i sicrhau bod cleientiaid yn teimlo'n ddiogel.
Mae'r cyllid yn gynnydd sylweddol, gan gynnwys £1.28 miliwn o gyllid ychwanegol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr ledled Cymru, a £900,000 i wella adeiladau a chyfleusterau, gwella diogelwch a darparu offer hanfodol i sefydliadau sy'n cefnogi goroeswyr.
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â 10fed pen-blwydd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, a ddaeth i rym ar 29 Ebrill 2015.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr New Pathways, Mike Wilkinson:
Bydd Tŷ Rothbury yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i bobl sydd wedi profi trais rhywiol (treisio, ymosodiad rhywiol a cham-drin rhywiol) gan gynnwys cymorth gan Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol, cymorth lles a chwnsela arbenigol i ddioddefwyr trais rhywiol. Mae gyda ni staff sy'n arbenigo mewn cefnogi plant a phobl ifanc, ac rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaethau hyfforddi proffesiynol a'n Coleg Cwnsela ein hunain.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet o amgylch Tŷ Rothbury, gan gyfarfod â staff, i weld sut mae'r cyfleusterau newydd wedi gwella gwasanaethau cymorth i oroeswyr.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
Mae partneriaethau fel yr un hon gyda New Pathways, lle rydyn ni'n gweithio'n agos gyda sefydliadau arbenigol, yn hanfodol i'n dull eang o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn cryfhau gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru, gan ddarparu mannau diogel lle gallan nhw ddechrau ar eu taith tuag at wella.
Does dim lle i aflonyddu, cam-drin na thrais yn ein cymdeithas. Ddeng mlynedd ar ôl Deddf Trais a Cham-drin, sy'n cynrychioli carreg filltir, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddileu trais yn erbyn menywod, gan wneud Cymru yn fwy diogel nag unrhyw wlad i fod yn fenyw neu'n ferch. Rydyn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol dynodedig, yr heddlu a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru i atal cam-drin, mynd i'r afael â phroblem cyflawni troseddau cam-drin, a chefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio.