Mae Hwb Dementia Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei amgylchedd eithriadol, sy'n ystyriol o ddementia, yn dilyn trawsnewidiad gwerth £140,000 wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Siopa'r Quadrant yn Abertawe, mae'r Hwb bellach wedi cael achrediad aur gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Stirling.
Helpodd Cronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru (IRCF) i greu gofod pwrpasol, sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion y rhai yr effeithir arnynt gan ddementia.
Ar ei hymweliad â'r hwb, dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
Mae cael gofod croesawgar, wedi'i gynllunio'n bwrpasol fel Hwb Dementia Abertawe yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw mewn amgylchiadau a all fod yn heriol iawn.
Wrth i ni baratoi i nodi wythnos gweithredu dros ddementia y mis hwn, roedd yn wych gweld sut mae ein buddsoddiad wedi helpu i greu amgylchedd hygyrch sy'n deall dementia, lle gall cannoedd o bobl dderbyn gwybodaeth a gwasanaethau hanfodol i gyd mewn gofod sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu eu hanghenion.
Mae'r Hwb wedi helpu mwy na 7,000 o bobl i gael gafael ar wybodaeth, gan ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n pryderu am eu cof, y rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia, a'u teuluoedd.
Gall ymwelwyr hefyd gael mynediad at ystod o wasanaethau gan gynnwys cyngor ar ddeiet a maeth, gweithgareddau seibiant, sesiynau therapi anifeiliaid anwes a cheisiadau am Fathodynnau Glas.
Mae Julie Samuel, 61, yn ofalwr i'w chwaer-yng-nghyfraith sydd â dementia cynnar.
Wrth siarad am yr effaith y mae'r Hwb wedi'i chael ar ei theulu, dywedodd Julie:
Mae'r Hwb wedi bod yn wych i ni. Pan gafodd fy chwaer-yng-nghyfraith ei diagnosis, doedden ni ddim yn gwybod ble i fynd am wybodaeth. Fe wnaethon ni gerdded i mewn un diwrnod, ac mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael ers hynny wedi bod yn wych.
Cafodd fy chwaer-yng-nghyfraith wybodaeth am y cyfnodau o ddementia, ac rydyn ni i gyd wedi cael cefnogaeth emosiynol trwy gwnsela a seibiannau llesiant fel ioga a chrochenwaith.
Dywedodd Arweinydd Prosiect Hwb Dementia a sylfaenydd Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia, Hannah Davies:
Rydyn ni'n hynod falch o fod wedi ennill statws aur. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu gwaith caled ac angerdd pawb sy'n rhan o'r prosiect. Nid gofod yn unig yw ein Hwb ar ei newydd wedd - mae'n achubiaeth i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n cerdded trwy ein drysau yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu deall a'u gwerthfawrogi.
