Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £30.9m ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru.
Mae'r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol ledled y wlad — o drefi arfordirol i gymunedau yn y cymoedd — gyda phrosiectau sy'n cwmpasu diwydiannau creadigol, hamdden, trafnidiaeth a threftadaeth.
Ers ei lansio yn 2020, mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £484 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi gwaith adfywio ledled Cymru – ac mae'r cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2025/26 i £56.3 miliwn trawiadol.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â dau brosiect blaenllaw, gan gwrdd â phartneriaid lleol a gweld cynnydd drosti ei hun.
Yn Wrecsam, aeth ar daith o amgylch yr Hyb Creadigol a lansiwyd yn ddiweddar yn yr Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines. Gwnaeth grant Trawsnewid Trefi gwerth £2.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru gefnogi'r gwaith o drawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn, a oedd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, yn ofod hyblyg, ynni-effeithlon ar gyfer busnesau cerddoriaeth, celfyddydol a chreadigol, sy'n gartref i stiwdios recordio, cyfleusterau cynhyrchu teledu, gofod ymarfer a safle manwerthu dros dro.
Yng Nghaerffili, ymwelodd â nifer o brosiectau sy'n cael eu cefnogi gan y rhaglen Trawsnewid Trefi, gan gynnwys y Ganolfan Hamdden a Lles newydd, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £900,000 i gefnogi'r prosiect hwn ac i sicrhau bod uchelgeisiau llawn y Ganolfan yn cael eu gwireddu, gan gynnwys sba, ardal chwarae i blant, stiwdios ffitrwydd ac arena Tag Active — gan greu cyrchfan llesiant go iawn i drigolion lleol.
Yn dilyn yr ymweliadau hyn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae gweld y cynnydd yn Wrecsam a Chaerffili drosof fy hun yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol, diriaethol y mae'r buddsoddiad hwn yn ei wneud i fywydau pobl ac i'r cymunedau maen nhw'n byw ynddynt.
Mae hyn yn ymwneud â mwy nag adeiladau — mae'n ymwneud â rhoi hyder i bobl yn y lle maen nhw'n ei alw'n gartref, denu swyddi i'r ardal leol, a gwneud yn siŵr bod adfywio yn cyrraedd pob cornel o Gymru.
Mae ehangder y buddsoddiad ledled Cymru — o Ynys Môn i'r Cymoedd — yn dangos ein bod yn benderfynol nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, ac y gall pob rhan o Gymru elwa ar waith adnewyddu.
