Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £55 miliwn ychwanegol i'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, gan godi cyllideb y rhaglen eleni i £155 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) Llywodraeth Cymru yn darparu tai tymor hwy o ansawdd da ar gyflymder i bobl y mae angen tai arnynt ledled Cymru.

Mae TACP yn cefnogi ystod o gynlluniau gan gynnwys caffael anheddau presennol, troi adeiladau amhreswyl yn dai a helpu i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i ariannu hyd yn oed mwy o gynlluniau, gan gefnogi'r rhai y mae angen tai arnynt ledled Cymru.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na £275 miliwn wedi'i fuddsoddi trwy TACP, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu mwy na 2,700 o gartrefi o ansawdd da, gan gynnwys sicrhau bod dros 930 o eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ategu llwyddiant TACP ac yn helpu i ddarparu cannoedd o gartrefi i bobl y mae angen tai arnynt yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Mae ein Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, gan gefnogi ystod eang o brosiectau i ddarparu cartrefi mawr eu hangen sy'n gynnes, yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni.

Mae'r hwb ariannol hwn yn cynyddu cyllideb TACP i £155 miliwn eleni, gan ein helpu i ddod â hyd yn oed mwy o dai i'r rhai sydd eu hangen fwyaf – oherwydd mae pawb yn haeddu lle diogel o safon i'w alw'n gartref.