Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na 15 tunnell o offer pysgota diwedd oes wedi'u hailgylchu ers 2023 drwy fenter ailgylchu arloesol ledled Cymru, gan helpu i ddiogelu amgylcheddau morol a rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, â gorsaf gasglu yn Aberystwyth i weld drosto'i hun sut mae'r Cynllun Offer Pysgota Diwedd Oes yn trawsnewid y broses rheoli gwastraff mewn cymunedau arfordirol. 

Mae'r cynllun, sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Odyssey Innovation Ltd, yn darparu pwyntiau casglu pwrpasol mewn porthladdoedd ledled Cymru lle gall pysgotwyr gael gwared ar rwydi, rhaffau, bwiau ac offer pysgota plastig arall sydd wedi eu defnyddio, er mwyn eu hailgylchu. 

Wrth siarad ar safle casglu Aberystwyth, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: 

"Dyma'r unig gynllun gwirioneddol genedlaethol o'i fath yn y DU, sy'n dod ag adnodd ychwanegol i mewn ar gyfer ffynhonnell ddeunydd nad yw wedi ei defnyddio o'r blaen ac mae'n cefnogi ein nod i ddod yn wlad orau'r byd am ailgylchu. 

Amcangyfrifir bod offer pysgota yn cyfrif am 20% o'r holl sbwriel morol a dyma'r drydedd eitem fwyaf cyffredin a ddarganfuwyd yn arolwg y Great British Beach Clean yng Nghymru y llynedd. Roedd yn cyfrif am 14% o'r sbwriel a ddarganfuwyd ar draethau Cymru. 

Mae'r fenter eisoes wedi ehangu i ddeg harbwr ledled Cymru, gyda phorthladdoedd llai ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn ymgysylltu'n arbennig o gryf â'r cynllun. 

Mae'r deunyddiau a gesglir yn cael eu graddio o safbwynt ansawdd, a'u trawsnewid yn gynnyrch amrywiol gan gynnwys dodrefn stryd y cyngor, cynwysyddion planhigion a deunyddiau ffordd, tra bod rhwydi a rhaffau yn cael eu prosesu yn Nenmarc a'u troi'n ganŵiau, caiacau a'r sgŵp dal microblastig arloesol 'Scuttle the Cuttle', sydd oll yn cael eu hailwerthu yn y DU. Mae 'Scuttle the Cuttle' wedi'i anelu at bobl ifanc a grwpiau cymunedol ar gyfer casglu darnau o blastig, gan gynnwys offer pysgota - sy'n cyfrannu at gyfanswm sylweddol o'r microblastigau yn ein hamgylchedd - tra'n dangos sut y gellir cyflawni cylcholrwydd offer pysgota.  

Dywedodd Rob Thompson o Odyssey Innovation, sy'n gweithredu'r Cynllun Adfywio Rhwydi sy'n casglu'r sbwriel morol:

"Mae'r fenter ailgylchu hon yn enghraifft wych o sut y gall ymdrechion cydweithredol rhwng gwahanol endidau feithrin economi gylchol yn effeithiol.

"Mae cyfranogiad brwdfrydig pysgotwyr o safbwynt ailgylchu eu hoffer wedi bod yn hollol hanfodol i lwyddiant y cynllun.

"Yr un mor hanfodol oedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei gwneud hi'n hyfyw i ddatblygu'r cynlluniau ailgylchu hyn, ac ymgysylltu â'n partneriaid diwydiant ac arloesi sy'n defnyddio'r deunydd a'i ailgyflwyno i'r economi. Yn y pen draw, mae cydweithio wedi bod yn allweddol i gyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin. 

Dywedodd Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru: 

"Rydym wedi cefnogi'r cynllun ailgylchu offer pysgota 'Diwedd Oes' o'r cychwyn cyntaf.

"Yn sylfaenol i lwyddiannau'r cynllun hyd yma mae'r cysylltiadau cydweithio sydd wedi eu sefydlu ers y prosiect peilot cychwynnol. 

"Yn bwysig, yr ymdrechion gwirfoddol gwych gan bobl sy'n pysgota yng Nghymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth ac sy'n parhau i wneud gwahaniaeth drwy leihau'n sylweddol ein dibyniaeth ar safleoedd tirlenwi. 

"Ein gobaith o hyd yw y gellir ymestyn gwasanaeth cynaliadwy hirdymor i bob porthladd a harbwr ledled Cymru drwy'r cynllun hwn.