Neidio i'r prif gynnwy

Bydd adnoddau Cymraeg yn helpu plant i adnabod yr arwyddion o fagu perthynas amhriodol a cham-drin ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth ychwanegol i’w diogelu rhag y nifer cynyddol o fygythiadau ar-lein, wrth i Lywodraeth Cymru - trwy raglen ddysgu digidol Hwb – ymuno â’r elusen diogelu plant Internet Watch Foundation  fel Aelodau – y corff Llywodraethol cyntaf i wneud hynny.

Fel rhan o’r Wythnos Ddiogelu Cenedlaethol, mae’r IWF – elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am ganfod a chael gwared ar ddeunydd sy’n dangos plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol oddi ar y rhyngrwyd – wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener 19 Tachwedd) bod Is-adran Dysgu Digidol Llywodraeth Cymru wedi dod yn Aelod newydd.

Bydd yr IWF yn cydweithio â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod eu llwyfan Hwb, sy’n gartref i’r Cwricwlwm i Gymru ac yn darparu adnoddau a phecynnau digidol ar gyfer addysgu a dysgu  i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, mor ddiogel â phosibl.

Bydd y llwyfan yn anelu at rymuso plant a phobl ifanc yng Nghymru i adnabod yr arwyddion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein ac ecsbloetio drwy ddarparu tudalennau cymorth pwrpasol, gan gynnwys deunyddiau dwyieithog gan ymgyrchoedd Gurls Out Loud a Home Truths yr IWF.

Lansiwyd yr ymgyrchoedd hyn mewn ymateb i nifer cynyddol o adroddiadau ynghylch deunyddiau sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, lle mae plant wedi cael eu targedu ar gyfer perthynas amhriodol ar-lein, ac wedi cael eu twyllo neu eu hecsbloetio i gynhyrchu a rhannu delwedd neu fideo rhywiol o’u hunain.

Y gobaith yw y bydd y deunyddiau dwyieithog a’r erthyglau gan arbenigwyr yn ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb yn cael effaith fawr ac yn helpu i ledaenu’r rhybudd am y cynnydd yn y bygythiadau ar-lein, gan helpu rhagor o blant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: 

“Rwy’n falch iawn bod Hwb yn cydweithio â’r IWF, sy’n golygu mai Llywodraeth Cymru yw’r corff llywodraethol cyntaf i ymuno â’i chymuned o aelodau byd-eang, ac yn rhoi cymorth iddynt i barhau i helpu’r rhai sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin ac ecsbloetio plant yn rhywiol.

“Er mwyn atgyfnerthu’r neges bod meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn risg ddifrifol, ac yn risg y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd, rydym hefyd yn cydweithio â’r IWF i hyrwyddo’r ddwy brif ymgyrch sy’n ymwneud ag atal meithrin perthynas amhriodol ar-lein, sef – Gurls Out Loud a Home Truths.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â’r IWF a mynd i’r afael â bygythiadau fel hyn yn erbyn plant a phobl ifanc ar-lein.”

Dywedodd Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr yr IWF:

“Yn anffodus, ers y cyfnod clo, rydym wedi gweld bygythiadau ar-lein yn erbyn plant a phobl ifanc yn mynd tu hwnt i bob rheolaeth. Mae potensial anferth i’r rhyngrwyd wneud gwaith gwych, ac mae wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i blant allu dysgu, cymdeithasu a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd.

“Ond mae unigolion diegwyddor sy’n cymryd mantais ar bobl yn camddefnyddio’r rhyngrwyd hefyd. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r peryglon, a bod troseddwyr yn cael eu canfod a’u dal.

“Dyma pam mae partneriaethau fel hyn mor bwysig. Drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru gallwn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn cael eu diogelu ar-lein, a gallwn sicrhau bod yr offer, sgiliau a’r adnoddau cywir ar gael fel bod modd i blant a phobl ifanc fod yn hyderus am herio ymddygiad camdriniol pan maent yn gweld hynny.”

Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r IWF mewn cyfnod allweddol. Yn 2020, fe wnaeth dadansoddwyr yr IWF ddelio â’r nifer uchaf erioed o adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, wrth i argyfwng y coronafeirws olygu bod mwy o bobl nag erioed yn dibynnu ar y rhyngrwyd i ddysgu, gweithio a chymdeithasu.

I ddysgu mwy am waith yr IWF, ewch i IWF: Amdanom ni

Gellir adrodd yn ddienw am ddelweddau a fideos ar-lein o gam-drin plant yn rhywiol.