Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu'r cymorth ariannol ar gyfer ôl-raddedigion o Gymru o fis Medi eleni ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y cymorth a fydd ar gael i rywun sy'n dechrau astudio cwrs Meistr ôl-raddedig ym mlwyddyn academaidd 2019-20 yw £17,000 o'i gymharu â £13,000 yn 2018-19.

Bydd y pecyn ariannol yn cynnwys grant o £1,000 i fyfyrwyr cymwys, gan gynnwys cymorth ariannol o hyd at £5,885 sy'n seiliedig ar brawf modd. Yn ogystal, mae'n bosibl cael benthyciad, sy'n golygu bod cyfanswm o hyd at £17,000 o gymorth ariannol ar gael ar gyfer hyd cyfnod y cwrs astudio. Bydd y cymorth ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhai rhan-amser.

Daw'r cyhoeddiad hwn yn dilyn adolygiad o gyllid addysg uwch a chyllid myfyrwyr, a oedd wedi argymell y dylai astudiaethau ôl-raddedig ar gyfer gradd Meistr gael eu cefnogi gan becyn cyllid tebyg i israddedigion.

Fel yn achos cymorth ar gyfer astudiaethau israddedig, bydd myfyrwyr dan 25 oed sy'n gadael gofal yn derbyn yr uchafswm a roddir fel cymorth grant.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Mae hyn yn newyddion gwych i raddedigion sy'n ystyried symud ymlaen i'r lefel academaidd nesaf drwy astudio ar gyfer gradd Meistr.

“Mae addysg o ansawdd uchel yn ysgogi symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth ymgysylltiol. Yn ogystal, mae cynnydd academaidd yn dda i ddatblygiad yr unigolyn, i amrywiaethu'r math o broffesiynau y gellir cychwyn arnyn nhw, ac i wella'n llesiant economaidd.

“Rwy am ddatblygu'r llwyddiant y mae ein prifysgolion wedi ei gael wrth recriwtio a chadw myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru yn 2018-19. Rwy hefyd yn ystyried y ffordd orau o gynnig cymhelliant i'n prifysgolion fel eu bod yn gallu parhau i ddenu'r myfyrwyr mwyaf talentog o Gymru."

“Un o'm prif uchelgeisiau fel Gweinidog Addysg yw cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n symud ymlaen i astudio gradd Meistr – sef yr her fawr nesaf i wella symudedd cymdeithasol yn fy marn i.”

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae cyfleoedd ôl-radd yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau Cymru heddiw ac yn y dyfodol. Gyda nifer gynyddol o israddedigion, mae'n bwysicach nag erioed i opsiynau ôl-radd fod mor hygyrch ag sy'n bosibl. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i'r rheini sydd am barhau i astudio a datblygu eu sgiliau. A bydd hynny yn ei dro'n gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru."