Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar ysgolion cynradd Cymru i fod yn rhan o brosiect sydd wedi ei anelu at ysgogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (dydd Mercher 5 Ebrill), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams wedi lansio prosiect cenedlaethol newydd i roi hwb i sgiliau cyfrifiadureg plant ysgolion cynradd Cymru.

Mae’r prosiect Barefoot Computing yng Nghymru yn ceisio helpu athrawon ysgolion cynradd i fynd i’r afael â chyfrifiadura fel bod modd iddynt ysbrydoli a chyffroi disgyblion am fyd TG, a hynny o bump oed ymlaen.

Ariennir ac arweinir y fenter gan BT, sydd wedi bod yn  gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnoddau ar gyfer y prosiect yng Nghymru yn cydweddu’n agos â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’u bod ar gael yn ddwyieithog ar  Hwb, y platfform dysgu digidol.

Aeth Kirsty Williams i Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri i ddysgu mwy am Barefoot mewn gweithdy. Yno, cafodd adnoddau ar-lein newydd ar gyfer athrawon eu harddangos am y tro cyntaf, a rheiny’n adnoddau sydd wedi’u teilwra i’r Cwricwlwm yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nod yr adnoddau a’r cynlluniau gwersi dwyieithog y gellir eu lawrlwytho’n rhad ac am ddim yw helpu athrawon ysgolion cynradd ledled Cymru, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt lawer o wybodaeth arbenigol am gyfrifiadura.
Mae’r adnoddau yn canolbwyntio ar gysyniadau fel algorithmau, tynnu gwybodaeth, rhaglennu, a strwythurau data, ac maent yn rhoi syniad o sut y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd Kirsty Williams: 
“Ers ymuno â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Addysg, un o’m blaenoriaethau yw codi dyheadau ein plant a’n pobl ifanc, ehangu eu gorwelion a datblygu uchelgais er mwyn i bawb gael llwyddo. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy’n rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ein plant yn y byd modern, yn garreg filltir bwysig ac yn dod â ni gam yn nes at gyrraedd y flaenoriaeth honno. Pleser i mi, felly, yw gallu lansio’r adnoddau hyn, sy’n greadigol ac yn rhad ac am ddim, adnoddau sy’n brawf perffaith o sut y gallwn integreiddio sgiliau digidol i’r cwricwlwm yng Nghymru.”

Bydd aelod o dîm Barefoot yn cysylltu â phob athro cynradd i dynnu sylw at yr adnoddau newydd, sydd eisoes wedi cael cymeradwyaeth gan athrawon eraill yn y DU.
Mae dros filiwn o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd wedi defnyddio Barefoot ers iddo gael ei lansio yn 2014, a chael budd mawr ohono. Mae’n rhan o ymrwymiad hirdymor BT i helpu i adeiladu diwylliant o ddealltwriaeth technolegol a helpu pum miliwn o bobl ifanc yn y DU erbyn 2020.

Dywedodd, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BT Cymru, Alwen Williams:

“Os ydych chi eisiau i Cymru ffyniannus yn y dyfodol, yna mae cyfrifiadura yn sgil hanfodol.

“Mae angen y sgiliau hyn ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt fynd o nerth i nerth yn y byd modern, sy’n mynd yn fwy cystadleuol ac yn fwy digidol bob dydd. Mae busnesau a sefydliadau o bob lliw a llun eisiau gweithwyr sy’n deall technoleg er mwyn iddynt lwyddo.

“Mae ein plant yn cael eu magu yng nghanol technoleg, ond nid oes gan lawer ohonynt y syniad lleiaf o sut y mae’n gweithio. Mae’r ddealltwriaeth yn stopio gan amlaf gyda’r sgrin. 

“Mae’r rhaglen hon gan BT, wedi ei llunio i ysbrydoli pobl ifanc i ddeall cysyniadau technolegol, i’w canfod yn gyffrous ac yn berthnasol, ond hefyd, wrth gwrs, mae angen i’r  athrawon deimlo’n hyderus er mwyn cefnogi’r bobl ifanc.

“Dyma bwrpas y prosiect yma, Barefoot Computing. Rydym yn edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y prosiect yng Nghymru.”

Dywedodd Bill Mitchell, cyfarwyddwr addysg Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, a oedd yn gyfrifol am greu Barefoot Computing yn wreiddiol ar y cyd â’r Adran Addysg, Raspberry Pi a BT:
“Mae’n hanfodol bod plant yn datblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol o’r dechrau’n deg yn yr ysgol gynradd, dyma pam fod y prosiect Barefoot Computing mor bwysig. Mae’n rhoi’r arfau addysgol sydd ei hangen ar athrawon i allu helpu’r disgyblion i ddatblygu’r sgiliau hyn.”“Drwy gefnogi prosiect Barefoot Computing, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yr arweiniad a’r weledigaeth angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin y sgiliau hynny er mwyn datblygu’n oedolion sy’n gallu cystadlu yn llwyddiannus yn yr economi ddigidol fyd-eang.”

Gall disgyblion ac ymarferwyr yng Nghymru weld y deunydd dwyieithog ar hwb.cymru.gov.uk  Yn fuan, gall ysgolion wneud cais am weithdy i ddangos sut y gellir defnyddio’r adnoddau a’r cynlluniau gwersi.