Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Lesley Griffiths ei bod yn rhoi £1.5 dros y tair blynedd nesaf i gyflwyno Rhaglen Datblygu Allforio Well ar gyfer cynnal y diwydiant cig coch yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan fod y DU ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd a chan fod ansicrwydd ynglŷn â’r telerau ar gyfer cael mynediad at y prif farchnadoedd ar ôl 2019, mae’r diwydiant cig coch yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol.  Mae’r rhan fwyaf o’r heriau yn ymwneud â blaenoriaethu cynnal y marchnadoedd allforio presennol a datblygu marchnadoedd newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a hedfanodd i Cologne i fynd i’r arddangosfa fasnach er mwyn cefnogi cynrychiolwyr o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru fod rhoi cyllid i HCC yn ymateb yn uniongyrchol i’r heriau sylweddol hyn.

Cyn gadael dywedodd, 

“Ni fu erioed mor bwysig inni godi proffil Cymru yn rhyngwladol a mynd ati’n egnïol i hyrwyddo’n cynhyrchion bwyd a diod rhagorol i’r byd. 

"Mae HCC yn nodi mai 5% yn unig o’r cig oen a gynhyrchir yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru gyda hyd at 40% ohono yn cael ei allforio i du allan i’r DU. Amcangyfrifir bod dros 90% o’r allforion hyn, gwerth €200 miliwn y flwyddyn, yn mynd i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae diwydiant cig coch Cymru’n dibynnu’n fawr ar farchnadoedd allforio byd-eang i gael y prisiau uchaf. Mae’r galw cryf o dramor yn codi’r prisiau a delir i ffermwyr ac yn helpu i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw gan sicrhau mwy o enillion i’r gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y marchnadoedd allforio ar gyfer y diwydiant cig coch yng Nghymru.

“Mae’r £1.5 miliwn hwn yn ymateb yn uniongyrchol i’r her sylweddol sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil ansicrwydd y trefniadau masnachu a geir ar ôl gadael yr UE. 

“Yn amlwg, mae angen inni barhau i gryfhau ein diwydiant a’i baratoi ar gyfer y dyfodol, ac mae’n hollbwysig bod HCC yn parhau i helpu’r diwydiant i gynnal  marchnadoedd allweddol Ewrop, yn ogystal â datblygu marchnadoedd sydd yn bellach i ffwrdd. 

“Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn, a’r cymorth a ddarperir gan HCC, yn helpu’r diwydiant i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Mae digwyddiadau masnachol rhyngwladol fel y rhain yn ffordd wych i gwmnïau rhagorol Cymru ehangu eu busnesau ac maen nhw’n gyfrwng amhrisiadwy ar gyfer cael mynediad at farchnadoedd cyffrous newydd. Maen nhw’n hefyd yn ein helpu i wireddu ein cydweledigaeth ar gyfer cynyddu’n gynaliadwy werthiant y diwydiant 30% i £7 biliwn erbyn 2010.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae’n hallforion bwyd a diod wedi codi 20%. Mae hyn yn cynyddu ar gyfradd gyflymach o'i gymharu â'r DU gyfan, a dyfodd 9.5% dros yr un cyfnod.”