Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod statws arbennig newydd Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn fyw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ynys Môn yn ymuno â'r porthladd rhydd arall yng Nghymru, Porthladd Rhydd Celtaidd Port Talbot ac Aberdaugleddau, a aeth yn fyw ym mis Tachwedd.

Bydd y porthladdoedd rhydd yn ffurfio parthau arbennig ar gyfer busnes gyda manteision o ran treth a thollau, a chyllid ar gyfer prosiectau seilwaith a sgiliau allweddol. Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn nodedig am eu bod yn cynnwys telerau gwaith teg, cydnabyddiaeth gan undebau ac mae awdurdodau lleol yn rhan o’u gwaith.

Nod y porthladdoedd rhydd Cymru yw sbarduno adfywiad economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel. Maent hefyd yn anelu at ddatblygu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddiad a masnach byd-eang ar draws yr economi ac ysgogi arloesedd.

Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn canolbwyntio ar hybu cryfderau penodol pob ardal, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd yno o ran ynni’r gwynt ar y môr ac ynni'r môr, gweithgynhyrchu uwch ac arloesedd.

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynnwys safleoedd ym Mharc Ffyniant a Pharc Cybi yng Nghaergybi, M-Sparc ger Gaerwen a dau safle tir llwyd ar Ystad Ddiwydiannol Llangefni.

Nod porthladdoedd rhydd Cymru yw denu £6.5 biliwn mewn buddsoddiad a chreu tua 17,000 o swyddi.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Dyma newyddion gwych i Ynys Môn, sydd i'w groesawu'n arbennig yn dilyn y difrod diweddar yn sgil y stormydd a darodd Caergybi.

"Un o'r blaenoriaethau a nodais wrth ddod yn Brif Weinidog Cymru oedd creu swyddi a thwf gwyrdd. Rwy'n falch y bydd ein porthladdoedd rhydd yng Nghymru nid yn unig yn denu buddsoddiad a swyddi, maent hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:

"Dyma ddatblygiad sylweddol a fydd yn cefnogi twf parhaus a swyddi o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gwblhau achosion busnes y porthladdoedd rhydd, a fydd yn arwain at hyd at £25m o gyfalaf sbarduno ar gyfer pob porthladd rhydd wrth iddynt weithredu'n llawn."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens:

“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Gymru gyda’n dau borthladd rhydd bellach ar agor i fusnesau ac yn dechrau ar y gwaith o sbarduno buddsoddiad, cyfleoedd a thwf.

“Bydd ein buddsoddiad o £26 miliwn ym mhorthladd rhydd Ynys Môn yn helpu i yrru ein gweledigaeth ar gyfer y rhan hon o Gymru, gan ddod â miloedd o swyddi newydd a hybu diwydiannau’r dyfodol.”