Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru buddsoddi £1m i greu rhwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r cam fel rhan o gynlluniau i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon gyda'r nod o sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040.

Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar gamau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd i wella hygyrchedd o fewn cymunedau gwledig, fel y gwasanaeth bws Fflecsi, sy'n ymateb i'r galw.

Bydd y cynlluniau ar gyfer clybiau ceir, sy'n darparu ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu manteision defnyddio car, heb y gost o fod yn berchen ar un, yn cael eu gweithredu mewn cymunedau gwledig ledled Cymru gan gynnwys y Drenewydd, Llanidloes, Y Trallwng, Machynlleth, Crymych, Cwmllynfell, Cilgeti, Llanymddyfri a Llandrindod.

Wrth siarad ar ymweliad ag un o'r clybiau ceir sydd newydd ei ariannu yn Llandeilo, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

Er mwyn cyrraedd ein targedau o ran allyriadau carbon cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040 (i fyny o 32% yn 2021).

Bydd cyflawni hyn mewn ardaloedd gwledig yn gofyn am ddull gwahanol i'r hyn a fydd yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol.

Mae clybiau ceir yn ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu'r defnydd o gar heb y costau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar un.

"Bydd y cyllid a gyhoeddir heddiw yn creu rhwydwaith o glybiau ceir mewn cymunedau gwledig ledled Cymru ac edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth gwirioneddol y bydd yn ei wneud o ran ehangu opsiynau trafnidiaeth a lleihau ein hallyriadau carbon dros amser."