Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r gefnogaeth gan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, gyda'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cyllid hwn yn agor heddiw. Nod y cynllun yw sicrhau twf amgylcheddol ac economaidd cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu yn y dyfodol.

Gall y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant wneud cais am gyllid ar gyfer ystod eang o weithgareddau o 11 categori ar wahân.

Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaethu ac offer ar longau gyda'r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni. Mae hefyd yn cynnwys cyngor proffesiynol i fusnesau yn amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i strategaethau busnes a marchnata. Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i gynnal ymchwil ar anghenion diogelwch, iechyd a llesiant ar gyfer y sector.

Uchafswm y dyfarniad grant yw £100,000 a'r isafswm yw £500. Bydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 10 Mai a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod mis Gorffennaf.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle gellir dod o hyd i'r prosesau ymgeisio a hawlio. Mae manylion y cynllun, gan gynnwys canllawiau, i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

Rwy'n falch o allu sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi ein diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu.

Mae Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn cynnig cyllid ar gyfer ystod eang o gamau gweithredu a all fod yn hanfodol wrth helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd a thyfu.

Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru i ddysgu mwy am y cynllun a gwneud cais erbyn y dyddiad cau, 10 Mai.