Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £31.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio gan naw awdurdod lleol i helpu i gyflawni prosiectau fel Y Storfa yn Abertawe, Marchnad y Frenhines yn y Rhyl a dymchwel Canolfan Hamdden Casnewydd.
Cadarnhawyd y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2024/25 i £70 miliwn trawiadol.
Mae canol ein trefi a'n dinasoedd yn dod â phobl ynghyd, yn cynnal economïau lleol, ac yn sail i ymdeimlad cymunedau o falchder, treftadaeth a pherthyn. Mae Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn helpu i adfywio a rhoi bywyd newydd i'r mannau hyn.
Ers ei lansio yn 2020, mae'r rhaglen wedi dyfarnu dros £314 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi gwaith adfywio ledled Cymru. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yn derbyn cyllid gan y rhaglen Trawsnewid Trefi.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â nifer o brosiectau adfywio yn Llanelli sydd wedi elwa ar gyllid Trawsnewid Trefi.
Dywedodd:
Mae prosiectau fel yr YMCA neu'r llyfrgell yng nghanol tref Llanelli yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio ein cyllid Trawsnewid Trefi er mwyn mynd ati i ailddefnyddio adeiladau gwag ac adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon, gan adfywio mannau cyhoeddus.
Mae mor bwysig ein bod yn parhau i greu lleoedd sy'n diwallu anghenion cymunedau lleol gan ddathlu eu treftadaeth a'u cymeriad unigryw. Yn y modd hwnnw, gallwn gefnogi dyfodol cymunedau gan hefyd hyrwyddo eu gorffennol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - y Cynghorydd Hazel Evans:
Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i’n trefi, drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid yr ydym eisoes wedi’i dderbyn wedi galluogi’r Cyngor Sir i ailddatblygu a darparu mwy o safleoedd manwerthu, tai i drigolion lleol a chyfleusterau gwell yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarchod cyllidebau ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Trefi, gyda £40 miliwn ar gael ar gyfer 2025/26.