Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd y gefnogaeth i'r diwydiant bysiau yng Nghymru yn parhau, gan gadarnhau £39m ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth y byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy 'Grant Rhwydwaith Bysiau' newydd.

Bydd y grant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau pan ddaw Cronfa Bontio Llywodraeth Cymru ar gyfer Bysiau i ben ddydd Sul, 31 Mawrth.

Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn para am 12 mis.  

Bydd gofyn i awdurdodau lleol fodloni amodau penodol i gael unrhyw gyllid.

Mae’r amodau’n cynnwys sicrhau bod llwybrau ac amserlenni yn gwella amserau teithio, creu cyfleoedd i wella cysylltiadau lle gellir gwneud hynny, a gwella'r wybodaeth am amserau gwasanaethau bws. 

Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters:

"Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn dod â sefydlogrwydd i'r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau. 

"Bydd hefyd yn gweithredu fel pont o'r arian argyfwng sydd wedi'i roi ar gyfer masnachfreinio bysiau.

"Bydd y grant yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog cydlynu gwasanaethau bysiau rhanbarthol yn well; tocynnau rhwydwaith a sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau sy'n cael eu darparu."

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i newid y ffordd mae bysiau'n cael eu rhedeg yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd fanylion yn Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau ac, yn ddiweddarach eleni, bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno yn y Senedd.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru:

"Bydd masnachfreinio bysiau yn dod â'r system ddigyswllt bresennol i ben, lle mae cwmnïau preifat yn penderfynu pa lwybrau i'w rhedeg. Yn ei lle, bydd cynghorau a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar rwydweithiau bysiau lleol a rhanbarthol fydd yn diwallu anghenion cymunedau. 

"Bydd hefyd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gysylltu llwybrau bysiau ag amserlenni trenau a chreu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gydag un tocyn y gellir ei ddefnyddio ar y ddau."

Heddiw hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Argymhellion Teithio i Ddysgwyr 2023.

Mae'r Adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i helpu i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y darpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru.

Mae'r adroddiad yn argymell ailwampio'r canllawiau statudol sy'n disgrifio rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n ymwneud â theithio i ddysgwyr.

Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters:

"Y gost ar gyfer rhedeg y bysiau ysgol bresennol yw tua £160 miliwn y flwyddyn ac mae wedi cynyddu'n sylweddol - mae bellach yn cyfrif am tua chwarter y gwariant heb ei ddirprwyo ar ysgolion gan awdurdodau lleol.

"Byddai darparu teithiau am ddim i ragor o ddisgyblion wrth reswm yn ychwanegu at y bil hwnnw yn sylweddol ar adeg o doriadau gwerth £1.2 biliwn yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru.

"Yn ein barn ni, mae bysiau ysgol yn rhan bwysig iawn o'n cynlluniau i ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus, gan gysylltu trafnidiaeth ysgol â gwasanaethau rheolaidd a buddsoddi mewn bysiau modern sy'n hygyrch i bawb.

"Drwy weithio gyda'n gilydd, credwn y gallwn feithrin diwylliant cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwy o deithio cyfrifol i'r ysgol."