Bydd mwy o bobl yn derbyn triniaeth radiotherapi wrth i Ysbyty Glan Clwyd gael peiriannau trin canser newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £9.49 miliwn mewn 2 gyflymydd llinellol newydd yng Nghanolfan Triniaeth Canser Gogledd Cymru i gymryd lle offer sy'n heneiddio.
Bydd y peiriannau newydd yn darparu triniaeth radiotherapi mewn modd mwy cywir ac effeithlon.
Gall y Linacs diweddaraf dargedu a dinistrio celloedd canser yn fwy cywir, gan leihau'r risg o wneud niwed i’r feinwe normal o amgylch safle'r tiwmor.
Bydd yr offer newydd yn fwy dibynadwy na'r peiriannau hŷn, sy'n gallu torri i lawr ac achosi oedi yn y driniaeth a roddir i gleifion. Maen nhw'n gweithio'n gyflymach, gan ganiatáu i fwy o bobl gael triniaeth bob wythnos.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Bydd yr offer newydd diweddaraf hwn yn darparu triniaeth yn fwy cywir ac yn gyflymach i bobl â chanser, gan wella mynediad at wasanaethau radiotherapi a lleihau amseroedd aros.
Mae'n enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i bobl, ac mae'n dilyn buddsoddiadau tebyg mewn offer newydd yng nghanolfannau canser eraill yng Nghymru.
Dywedodd y Pennaeth Ffiseg Radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd, Jaap Vaarkamp:
Bydd yr offer newydd hwn yn ein helpu i ddarparu gofal arloesol, sy'n canolbwyntio ar y claf, trwy driniaethau symlach, lleihau amseroedd darparu'r driniaeth, a gwelliant mawr i'r ddarpariaeth ddelweddu. Bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn rhoi triniaeth wedi'i thargedu, pan fydd angen gwneud hynny.
