Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford £1.4m o gyllid ychwanegol gan yr UE i helpu mwy o weithwyr yn y sector gweithgynhyrchu uwch i ennill sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL), dan arweiniad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn helpu i ddatblygu sgiliau, hybu perfformiad a chynhyrchiant i arwain y sector diwydiannol hwn sy'n tyfu.

Bydd y cyllid ychwanegol o £1.4m yn galluogi i'r cynllun helpu dros 400 o bobl i ennill sgiliau technegol mewn sectorau newydd a datblygol, gan gynnwys ynni a phŵer,  gweithgynhyrchu clyfar, peirianneg deunyddiau, economi gylchol yn ogystal â thechnoleg cyrydu a haenau. Bydd hefyd yn cefnogi 60 o gwmnïau ychwanegol yn y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De. 

Dywedodd yr Athro Drakeford,

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen i sbarduno twf a chynhyrchiant. Mae hyn yn enghraifft arall o ba mor bwysig ydyw i sicrhau bod Cymru yn cael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit fel y gall buddsoddiadau yn y dyfodol barhau i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.” 

Dywedodd Rheolwr Prosiect METaL, Dr Khalil Khan o Brifysgol Abertawe: 

“Mae'r arian hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn sicrhau parhad cyfrwng gwych i Brifysgol Abertawe i rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad er mwyn cefnogi busnesau Cymru. 

“Mae'r arian yn ategu buddsoddiad Llywodraeth Cymru o ran cefnogi busnesau, a bydd y diwydiant yn elwa drwy sicrhau bod ei weithlu yn meddu ar wybodaeth dechnegol gywir i alluogi busnesau Cymru i gystadlu mewn marchnad fyd-eang."

Un o'r cwmnïau sydd wedi elwa ar y cynllun METaL yw TATA Steel ym Mhort Talbot. Dyma Reolwr Tân ac Amgylchedd y safle, Andrew Townsend, yn sôn am ei brofiad o'r cynllun. 

“Mae cyrsiau METaL wedi helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o agweddau technegol sy'n gysylltiedig â'u gwaith. Yn benodol, mae'r cwrs materion amgylcheddol wedi helpu pobl i ddeall deddfwriaeth amgylcheddol a materion amgylcheddol sy'n seiliedig ar sector y farchnad a materion byd-eang a lleol." 

“Bydd ein gweithwyr yn elwa gan y bydd ganddyn nhw nawr gwell dealltwriaeth o agweddau amgylcheddol ein busnes. Mae o fantais i'r cwmni gael gweithlu sy'n meddu ar fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol gan helpu i wella perfformiad amgylcheddol Tata Steel.” 

Nod y cynllun yw cefnogi dros 800 o bobl erbyn y bydd yn dod i ben yn 2022.