Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £2.6m, gyda chymorth yr UE, mewn cynllun gofal plant uchelgeisiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn werth £13.5m ac mae’n cael cymorth o £8.5m gan yr UE. Ei nod yw helpu rhieni sy’n ddi-waith neu’n economaidd anweithgar i gael swydd.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn sicrhau’r pecyn cyllid terfynol, sy’n cynnwys £1.7m gan yr UE ar gyfer helpu 1,400 o rieni ifanc eraill i wella eu siawns o gael swydd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dod yn sgil cyhoeddi’r fenter Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth gwerth £10.9m fis Hydref diwethaf – sy’n golygu y gellir cynnig cymorth i gyfanswm o 7,800 o bobl ledled Cymru.  

Bydd y cynllun yn gwella’r siawns o gael swydd drwy gynnig mynediad i hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith na fyddent fel arall yn bosibl efallai oherwydd yr angen am ofal plant. Bydd y cynllun yn talu costau gofal plant tra bydd y rhieni yn dilyn hyfforddiant sy’n rhoi iddynt y sgiliau y bydd eu hangen i gael swydd.  

Dywedodd Carl Sargeant:

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gwneud yn glir y bydd gofal plant ar frig blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’r cadarnhad heddiw bod £2.6m ychwanegol yn cael ei roi i’n rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, ar ben y £10.9m a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, yn newyddion gwych. Mae’n golygu y bydd miloedd o rieni ifanc ledled Cymru yn rhydd i gofrestru i gael hyfforddiant neu i wneud cais am swydd, gan wybod nad oes rhaid iddyn nhw boeni am ofal plant”.

Roedd y Gweinidog hefyd yn croesawu cyfraniad yr UE i’r cynllun. 

“Fy marn bersonol i, yn ogystal â barn swyddogol Llywodraeth Cymru, yw bod Cymru yn cael budd enfawr o aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd. Dim ond un enghraifft yw’r cynllun hwn o sut rydyn ni’n gallu rhoi cyfle i bobl ledled Cymru wireddu eu dyheadau, a gwneud Cymru’n wlad fwy ffyniannus, a hynny i gyd diolch i help gan yr Undeb Ewropeaidd”.