Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion wedi cadarnhau heddiw bod rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth wedi cael hwb o £3 miliwn i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a'r rheini y mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd.

Bydd £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi pobl mewn amrywiol feysydd gan gynnwys seiber, rhaglennu, dadansoddi data, seilwaith rhwydwaith a’r cwmwl, rheoli cronfeydd data, a sgiliau dadansoddi digidol.

Bydd £2 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gefnogi unigolion naill ai i uwchsgilio neu i ailsgilio mewn sgiliau sero net, a fydd yn helpu i ddatblygu gweithlu medrus iawn i gefnogi Cymru i symud tuag at sero net. Y sectorau a gefnogir fydd adeiladu, ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu. 

Hyd yn hyn mae dros £51 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ac mae bron i 30,000 o oedolion yng Nghymru wedi elwa ers i Gyfrifon Dysgu Personol gael eu lansio yn 2019, gyda dros 16,000 o unigolion wedi cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig.

Mae'r cyrsiau hyblyg, sydd am ddim, ar gael ledled Cymru drwy 13 o golegau.  Maent yn darparu hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn cael eu diwallu yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Rydyn ni’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn yn ystod Wythnos Dysgu Oedolion. Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cyfleoedd ardderchog i bobl ail-hyfforddi er mwyn canfod yr yrfa iawn iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod bod hyfforddiant sgiliau digidol a sero net yn feysydd mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw fwyfwy fel sylfaen sgiliau, ac maen nhw hefyd yn cyd-fynd yn agos iawn â'n hymrwymiadau i fod yn Gymru wyrddach, cryfach a thecach. 

“Mae rhaglen y Cyfrifon Dysgu Personol wedi cael ymateb gwych ers ei lansio, a byddwn yn annog unigolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd i ddarganfod mwy.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae'n wych gweld bod cymaint o bobl ledled Cymru yn manteisio ar y cyrsiau sydd ar gael trwy Gyfrifon Dysgu Personol.

“Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar incwm gwario cartrefi, felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ariannu a theilwra hyfforddiant galwedigaethol i unigolion sy'n chwilio am ddyfodol mwy disglair. Mae cyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol nid yn unig yn helpu i uwchsgilio unigolion, ond yn allweddol er mwyn llenwi bylchau talent hanfodol yn ein heconomi.”