Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith o adfer Castell y Gelli wedi cael hwb sylweddol arall yn sgil cyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae swm o £120,000 wedi ei ddyfarnu ar gyfer gwaith i wella’r neuadd gaerog ganoloesol a’r porthdy, y plasty, y cerbyty Fictorianaidd a’r tai allan. Mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli eisoes wedi sicrhau £4.9 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y gwaith o adfer y castell. Disgwylir i’r gwaith ar y prosiectau ddechrau yn y gwanwyn ac mae’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am gontractwyr i wneud y gwaith.

Mae disgwyl y bydd y gweithgareddau yng Nghastell y Gelli yn denu 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn unwaith y bydd y safle yn agored – bydd hyn yn hwb economaidd aruthrol i’r ardal. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae’r ffaith ein bod wedi gallu rhoi cefnogaeth i adfer Castell y Gelli yn rhoi boddhad mawr i mi. Bydd yn rhoi ail wynt i hanes yr ardal hon.  2017 yw Blwyddyn Chwedlau Cymru  – byddwn yn dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd erioed mo’i fath, ac wrth gwrs, byddwn yn creu chwedloniaeth newydd yn Nghymru.  Pa ffordd well i gychwyn y flwyddyn honno felly na dechrau ar y gwaith o adfer y castell hwn, sy’n caniatáu i ni ddod â’i hanes yn fyw wrth iddo agor ei byrth am y tro cyntaf mewn wyth canrif.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Castell y Gelli, Nancy Lavin Albert: 

“Bydd yr arian gan Croeso Cymru yn help mawr i ni i greu cyrchfan dreftadaeth o bwys yma. Bydd yn rheswm gwych arall dros ymweld â Chymru.” 

Ar ôl cwblhau’r gwaith o adfer Castell y Gelli, bydd yn ganolfan ragorol i’r ardal. Bydd yno oriel ar gyfer arddangosfeydd sydd ar daith; llwyfan ar ben y neuadd gaerog ganoloesol a fydd yn rhoi golygfa i ymwelwyr o Ddyffryn Gwy; lle i gynnal gweithdai addysgol; cyntedd eithriadol o hardd yn yr adain  ddwyreiniol sy’n adfail ar hyn o bryd; a chaffi yn yr hyn a arferai fod yn gerbyty a chegin.

Am ragor o wybodaeth, ewch i http://haycastletrust.org/ (dolen allanol).