Mae hyb iechyd menywod bellach ar agor ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnig gwasanaethau menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif yn agosach at adref.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i agor y saith hyb iechyd i fenywod erbyn diwedd mis Mawrth 2026, mewn ymateb i'r Cynllun Iechyd Menywod.
Mae pob un o'r hybiau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion lleol. Bydd rhai yn gweithredu dros sawl safle a bydd eraill yn cael eu cyrchu ar-lein i ddechrau. Mae pob hyb wedi'i gynllunio i wella mynediad at ofal arbenigol a darparu gwasanaethau yn y gymuned
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Mae gwella mynediad at wasanaethau iechyd menywod yn brif flaenoriaeth i mi oherwydd mae cynifer o fenywod wedi dweud wrthyf pa welliannau maen nhw eu heisiau. Un o gyflawniadau gwirioneddol y Senedd hon yw bod gennym bellach hyb iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.
Mae'r hybiau hyn yn dangos pan fyddwn ni’n ymrwymo i wneud rhywbeth, ein bod ni'n ei wireddu. Bydd yr hybiau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal iechyd menywod.
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
Rwy'n falch iawn bod pob un o’r hybiau bellach ar agor, gan gynnig mynediad i fenywod at atal cenhedlu, gofal menopos a gofal mislif.
Byddwn yn parhau i wrando ar yr hyn y mae menywod yn ei ddweud wrthym a’n bwriad yw addasu gwasanaethau yn yr hybiau hyn, gan sicrhau eu bod yn cynnig y gofal iawn, yn y lle iawn i fenywod, nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru:
Mae sefydlu hyb iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd yn gam mawr ymlaen i ofal iechyd menywod yng Nghymru.
Drwy Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, rydym wedi gwrando ar leisiau a phrofiadau miloedd o fenywod ac yn trawsnewid y safbwyntiau hynny yn newidiadau ymarferol.
Bydd yr hybiau hyn yn ei gwneud hi'n haws i fenywod gael yr help sydd ei angen arnynt ym mhob cyfnod o'u bywydau. Drwy wella mynediad at wybodaeth, cymorth a gofal wedi'i bersonoli yn agosach at adref, rydym yn helpu i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau a sicrhau bod iechyd menywod yn cael y flaenoriaeth y mae'n ei haeddu ledled Cymru,
Mewn llawer o fyrddau iechyd mae hyb braenaru cychwynnol wedi agor, gan gynnwys y rhai yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar, yr Adeilad Iechyd Rhywiol Integredig yn Aberystwyth, Hyb Maelfa yn Llanedeyrn, Caerdydd, Ysbyty Llandudno ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.
Yn ardaloedd bwrdd iechyd Powys a Bae Abertawe, mae'r hybiau yn gweithredu fel pyrth ar-lein, sy'n cyfeirio menywod at gymorth a gwasanaethau.
Mae pob un o'r hybiau wedi cael eu cynllunio gyda menywod i gyd-fynd â bywydau menywod. Bydd rhai gwasanaethau yn seiliedig ar atgyfeiriad a bydd eraill ar gael ar sail mynediad agored.
Ers cyhoeddi'r Cynllun Iechyd Menywod ym mis Rhagfyr 2024, mae hyfforddiant helaeth wedi'i roi i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd ym mhob rhan o'r wlad am endometriosis a chyflyrau iechyd menywod eraill. Mae byrddau iechyd hefyd wedi bod yn symud mwy o wasanaethau i gymunedau lleol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, er enghraifft, mae ffisiotherapi wro-gynaecolegol bellach ar gael drwy wasanaethau gofal sylfaenol yn hytrach nag yn yr ysbyty.
Mae gwybodaeth am yr hybiau iechyd menywod a sut i gael mynediad atynt wedi'i chynnwys ar wefan genedlaethol newydd bwrpasol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru a lansiwyd ddoe (dydd Llun 16 Mawrth 2026). Bydd y wefan yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i ganllawiau dibynadwy, wedi'u gwirio'n glinigol ar ystod eang o bynciau iechyd menywod a deall pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn lleol iddynt.
Mae'r Cynllun Iechyd Menywod yn nodi sut bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt, a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall. Mae'n cynnwys mwy na 60 o gamau gweithredu ar draws wyth maes blaenoriaeth i wella gofal iechyd i fenywod, ac yn seiliedig ar adborth gan oddeutu 4,000 o fenywod ledled Cymru.
Cafodd pob bwrdd iechyd £300,000 yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r hybiau braenaru iechyd menywod. Byddan nhw'n cael eu gwerthuso yn nes ymlaen eleni.
