Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm hyd y ffyrdd yng Nghymru yn 2022-23 oedd tua 35,150 km, cynnydd o 0.1% o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol (2021-22). Cymharol ychydig y mae cyfanswm hyd y ffyrdd yng Nghymru yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2022-23 roedd y cynnydd ar y ffyrdd yn bennaf oherwydd mabwysiadu ffyrdd newydd ac adolygiadau o’r rhwydwaith.
  • Powys sydd â'r rhwydwaith ffyrdd mwyaf o awdurdodau lleol Cymru. Mae ganddo'r gyfran uchaf o'r holl gefnffyrdd (27.3%), ffyrdd B a C (21.0%) ac is-ffyrdd â wyneb caled (12.3%) ac mae'n cyfrif am 15.7% o gyfanswm hyd ffyrdd Cymru.
  • Yn 2022-23, roedd angen monitro cyflwr strwythurol yn agos at 7.4% o'r rhwydwaith traffyrdd a 2.6% o'r rhwydwaith cefnffyrdd. Mae hyn yn cymharu â 7.3% a 2.5% yn y drefn honno yn 2021-22.

Ffigur 1: Cyfanswm hyd y ffyrdd yng Nghymru yn ôl dosbarthiad ffyrdd, 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart gylch yn dangos dadansoddiad o gyfanswm hyd y ffordd yng Nghymru yn ôl eu dosbarthiad ym mlwyddyn ariannol 2022-23.

Ffynhonnell: Ystadegau hyd a chyflwr ffyrdd, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Efallai na fydd canrannau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Mae chwe dosbarthiad ar gyfer ffyrdd â wyneb caled yng Nghymru: traffyrdd, cefnffyrdd A, ffyrdd sirol A, ffyrdd B, ffyrdd C ac is-ffyrdd â wyneb caled. Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd, ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ffyrdd sirol A, ffyrdd B a C, ac is-ffyrdd â wyneb caled.

  • Casnewydd sydd â'r darn hiraf o draffordd (26 km), sy'n cyfrif am 19.2% o gyfanswm traffordd Cymru.
  • Powys sydd â'r rhwydwaith ffyrdd hiraf gyda 5,510 km o ffordd, ac yna Sir Gaerfyrddin gyda 3,688 km. Mae rhan fwyaf y rhwydweithiau yn y ddau awdurdod hwn yn is-ffyrdd (categorïau B, C ac is-ffyrdd â wyneb caled).

Mae dadansoddiadau gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ar gael ar  StatsCymru.

Ffyrdd wedi’u rheoli gan Lywodraeth Cymru

Cyflwr strwythurol traffyrdd a chefnffyrdd

O ddiwedd mis Mawrth 2023, mae canlyniadau arolygon Defflectograff (gweler nodiadau) yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith wedi'i ystyried mewn cyflwr da, ac amcangyfrifir na fydd angen monitro agos at 76.3% o'r draffordd ac 84.5% o gefnffyrdd am o leiaf 20 mlynedd.

Mae'r adran hon yn ymdrin â chyflwr y rhwydwaith ffyrdd, sy'n cael ei arolygu bob blwyddyn i ganfod ei gyflwr strwythurol. Dangosodd yr arolwg fod angen monitro agos at 7.4% o'r draffordd a 2.6% o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar hyn o bryd. Dangosodd yr arolwg hefyd y bydd angen monitro agos at 3.1% o'r draffordd a 2.2% o'r cefnffyrdd yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Un ffactor sy'n effeithio ar gyflwr ffyrdd yw pam mor drwm yw’r traffig. Yn 2022, mae amcangyfrifon traffig ffyrdd a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth, yn dangos bod y traffig yng Nghymru yn 3.7 biliwn cilomedr o gerbydau ar y draffordd, a 7.3 biliwn cilomedr o gerbydau ar gefnffyrdd. Mae traffig fesul darn o'r ffordd yn llawer mwy ar draffyrdd o'i gymharu â chefnffyrdd, ffyrdd sirol ac is-ffyrdd (Traffig Ffyrdd).

Ffigur 2: Cyfran y traffyrdd a'r cefnffyrdd yng Nghymru sydd angen monitro eu cyflwr strwythurol yn agos, 2019-20 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y traffyrdd a’r cefnffyrdd yng Nghymru oedd angen monitro eu cyflwr strwythurol yn agos ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2019-20 i 2022-23.

Ffynhonnell: Ystadegau Hyd a Chyflwr Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Yn seiliedig ar ganlyniadau arolygon Defflectograff (gweler yr adran fethodoleg am fwy o wybodaeth). Mae angen monitro cyflwr strwythurol rhan o'r ffordd yn fanwl pan fydd ganddi oes gweddilliol negyddol. Nid yw hyn yn cynnwys palmentydd concrit a cherbytffyrdd uchel.

Atal sgidio ar draffyrdd a chefnffyrdd A

Mae atal sgidio yn gysylltiedig ag arwynebau ffordd gwlyb neu laith. Mae'n adlewyrchu cyflwr wyneb y ffordd trwy fesur ffrithiant rhwng teiars cerbydau a'r ffordd wrth gyflymu, brecio neu droi cornel. Mae profion yn digwydd ar arwynebau gwlyb gan fod gan arwynebau lai o ffrithiant a llai o allu i atal sgidio pan fyddant yn wlyb. Cafodd bron pob arwyneb traffordd a 94.0% o arwynebau Cefnffyrdd A eu harolygu yn 2022-23.

Mae gallu’r M4 i atal sgidio yn dda, gyda dim ond 0.2% o'r arwyneb a arolygwyd  islaw lefel ymchwil yn 2022-23. Ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd, canfuwyd bod 10.2% o'r arwyneb a arolygwyd ar lefel ymchwil neu'n is yn 2022-23, i fyny o 8.7% yn y flwyddyn flaenorol.

Nodyn: Yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg SCRIM (gweler yr adran fethodoleg am fwy o wybodaeth). 'Nid yw 'ar lefel ymchwil neu is' yn golygu nad yw'r ffyrdd yn ddiogel; mae'n nodi bod angen ymchwil pellach i benderfynu ar yr angen i gynnal a chadw'r rhan honno o'r ffordd.

Gwybodaeth am ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau hyd a chyflwr ffyrdd ac yng nghyfrifiadau Asesiad Gwariant Safonol (SSA), a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid i awdurdodau lleol.

Cywirdeb

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y nodyn technegol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT).

Hyd ffyrdd

Roedd y cynnydd bach yn 2022-23 o ganlyniad i fabwysiadu rhai ffyrdd yn ogystal ag adolygiad rhwydwaith parhaus yn Sir Gaerfyrddin.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r ystadegau ar hyd a chyflwr ffyrdd yn ymwneud â data a gafwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddir y bwletin ystadegol hwn ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau Cymru ac mae tablau ar ein gwefan StatsCymru i gyd-fynd ag ef.

Cymharoldeb a chydlyniaeth

Cyflwr ffyrdd awdurdodau lleol

Casglwyd y set ddata hon yn flaenorol fel rhan o Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) dan arweiniad Data Cymru. Daeth PAMs i ben yn 2020-21. Rydym yn croesawu barn defnyddwyr ar ofynion y data hwn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Arolygon defflectograff

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu dau brif ddull o brosesu data Defflectograff.  Defnyddiodd Llywodraeth Cymru’r dull Defflec ar gyfer pob arolwg hyd at 2014-15. Ers 2015-16, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dull prosesu Pandef.

Mae hyn yn arwain at ddiffyg parhad yn y data rhwng 2014-15 a 2015-16. Fodd bynnag, mae'r newid hwn mewn meddalwedd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r dulliau a ddefnyddir gan weddill y DU, gan gynnwys Highways England a Transport Scotland.

Arolygon SCRIM

O ganlyniad i'r amrywiad hwn yn y priodweddau sgidio, tan 2005, cynhaliwyd arolygon SCRIM o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar draean o'r rhwydwaith bob blwyddyn, gyda phob hyd yn cael ei arolygu dair gwaith y flwyddyn (ar ddechrau, canol a diwedd tymor yr arolwg SCRIM).

Fodd bynnag, roedd newid yn y dull o arolygu cefnffyrdd o 2005, fel bod mesuriadau atal sgidio bellach yn cael eu cynnal bob blwyddyn o dan un drefn arolygu flynyddol. Mae'r arolygon wedi'u trefnu fel bod y rhwydwaith, dros gyfnod o dair blynedd, yn cael eu harolygu ar ddechrau, canol a diwedd y tymor profi mewn blynyddoedd dilynol, h.y. bydd hyd a arolygwyd ar ddechrau y flwyddyn gyntaf yn cael ei arolygu ar ganol y tymor yn yr ail flwyddyn ac yna ar ddiwedd y tymor yn y drydedd flwyddyn.

Mae Highways England (Highways Agency gynt) wedi cynnal treialon cydberthynas blynyddol ar gyfer cerbydau arolwg SCRIM, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan TRL. Mae'n ofynnol i bob cerbyd SCRIM sy'n cynnal arolygon ar gefnffyrdd basio'r treialon er mwyn cynnal arolygon ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae cwmnïau eraill arolygon SCRIM hefyd yn gallu mynd i'r treialon, er nad yw'n orfodol. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol sy'n comisiynu arolygon SCRIM fel arfer yn disgwyl y bydd y cerbydau SCRIM a ddefnyddir ar eu rhwydwaith wedi pasio'r treialon, ac felly yn ymarferol canfuwyd fod pob cerbyd SCRM sy'n gweithredu yn y DU yn mynd i'r treialon. Yn y treialon mae'n ofynnol i'r cerbydau SCRIM gynnal arolygon ar nifer o safleoedd sydd â gwahanol lefelau o ymwrthedd sgidio a caiff y data ei gymharu i nodi allanolion. Nod y treialon felly yw sicrhau cysondeb ar draws y fflyd o gerbydau sy'n gweithredu yn y DU.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried p'un a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am ansawdd a chysylltiadau â pholisi a thargedau.
  • Gwella ein dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi golwg ehangach ar y pwnc.
  • Gwella'r elfen weledol drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru, sef sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir gwneud hynny drwy anfon neges e-bost at ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 22/2023

Image
Ystadegau Gwladol