Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae meddygon teulu ledled Cymru yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau endometriosis yn gynt er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff menywod ddiagnosis o’r cyflwr a gwella’r gofal ar eu cyfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae un o bob 10 menyw yng Nghymru yn dioddef o endometriosis. Mae’n gyflwr poenus sy’n gallu cymryd blynyddoedd i gael diagnosis ac mae’n un o feysydd blaenoriaeth y cynllun iechyd menywod, a lansiwyd chwe mis yn ôl.

Mae’r rhaglen hyfforddi newydd o dan arweiniad arbenigwyr yn un o’r mentrau iechyd menywod y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn eu darparu i feddygon teulu, sy’n helpu i wella profiadau gofal iechyd i fenywod yng Nghymru, gan gyd-fynd felly â nodau’r cynllun.

O ran y meddygon teulu sydd wedi cymryd rhan hyd yma, mae’r hyfforddiant ar endometriosis wedi arwain at gynnydd o 43% yn eu gwybodaeth am y cyflwr ac maent bellach yn fwy hyderus wrth drafod symptomau ac opsiynau triniaeth â menywod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Rydyn ni’n clywed yn gyson bod menywod yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed, a bod eu symptomau’n cael eu hanwybyddu. Mae’r hyfforddiant hwn yn gwneud yn siŵr bod lleisiau menywod wrth wraidd eu profiadau gofal iechyd, ac mae’n helpu meddygon teulu i helpu eu cleifion yn fwy effeithiol.

Mae endometriosis yn gallu cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd menywod, eu gwaith a’u perthnasoedd.

Rwy’n benderfynol y bydd ein cynllun iechyd menywod yn sbarduno gwelliannau go iawn o ran canlyniadau iechyd menywod a lleihau anghydraddoldebau.

Dywedodd Dr Mirka Slavska, ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a ddarparodd yr hyfforddiant:

Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i ddarparu’r hyfforddiant hwn gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Roedd y sesiwn yn ymdrin â diagnosisau gwahaniaethol, llwybrau atgyfeirio, opsiynau diagnostig a thriniaethau newydd, a chyflwyno adnodd adrodd symptomau Endometriosis Cymru.

Mae’r adborth rhagorol a gawsom ni yn adlewyrchu pa mor werthfawr yw rhoi gwybodaeth ymarferol a chyfredol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn gwella gofal i’r rhai sy’n byw gydag endometriosis.

Yn y cynllun iechyd menywod, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, mae endometriosis yn un o wyth maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gofal iechyd i fenywod a merched.

Mae’r llwyddiannau allweddol ers lansio’r cynllun yn cynnwys y canlynol:

  • gweithio i gwmpasu a sefydlu canolfan iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026
  • canolfan ymchwil iechyd menywod gyntaf i Gymru wedi’i hariannu gan Iechyd ac Ymchwil Cymru
  • galwad benodol am ymchwil ynghylch cyfathrebu am iechyd menywod

Heddiw (dydd Sadwrn, 7 Mehefin) yng Ngŵyl Everywoman yng Nghaerdydd, fe wnaeth Dr Helen Munro, arweinydd clinigol Iechyd Menywod yng Nghymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu’r canolfannau iechyd newydd. Dywedodd:

Hanfod y canolfannau iechyd menywod newydd fydd diwallu anghenion menywod drwy gydol eu hoes.

Dyma lle y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio â’r gwasanaethau presennol i ddarparu gwasanaethau iechyd menywod yn ein cymunedau. Bydd anghenion ein poblogaethau lleol, ynghyd ag adnoddau a seilwaith presennol yn llywio’r gwaith o ddylunio a sefydlu’r canolfannau.