Neidio i'r prif gynnwy

Mae adnoddau e-ddysgu i helpu gweithwyr ar ffyrlo o ganlyniad i’r coronafeirws i ddysgu sgiliau newydd yn fyw yn awr, cyhoeddodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y ddarpariaeth e-ddysgu anffurfiol sydd wedi’i lansio o’r newydd yw helpu gweithwyr ar ffyrlo i wella eu lefelau gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gefnogi lles eu meddwl a’u helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Gall dysgwyr brwd ymweld â gwefan Cymru’n Gweithio a chael eu cyfeirio at amrywiaeth o adnoddau ar-lein am ddim a fydd yn eu helpu i loywi eu cyfres o sgiliau.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae hwn yn gyfnod eithriadol heriol ac anodd i ni i gyd. Rydyn ni eisiau cefnogi’r gweithwyr hynny sydd ar ffyrlo a darparu cyfleoedd hawdd a hwylus iddynt i wella eu sgiliau, cynnal iechyd eu meddwl ac, o bosib, meddwl am eu hopsiynau gyrfaol yn y dyfodol.

“Hefyd bydd gweithwyr sy’n rhoi amser i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn hynod ddefnyddiol wrth i ni i gyd weithio i sicrhau bod economi Cymru yn y sefyllfa orau bosib i fownsio’n ôl o’r pandemig yma.

“Drwy’r fenter yma rydyn ni’n darparu amrywiaeth eang o adnoddau dysgu ar-lein am ddim, gyda llawer ohonynt yn ddwyieithog, gan ddarparwyr dibynadwy fel y Brifysgol Agored ac fe hoffwn i annog ein gweithlu ar ffyrlo i edrych ar beth sydd ar gael iddynt.”

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru:

"Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod ansicr i lawer o bobl sydd wedi cael eu rhoi ar gyfnod ffyrlo ac mae ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio yma i helpu.

"Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth o e-ddysgu anffurfiol y gall pobl ei gwblhau ar-lein, fe allwn ni eu cefnogi i wella eu sgiliau presennol, dysgu rhywbeth newydd a chefnogi eu lles."

Dywedodd Louise Casella, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae aros gartref am y cyfnod estynedig yma’n heriol i’r rhan fwyaf ohonom ni, ond mae’n achosi ansicrwydd mawr i staff sydd wedi cael eu gosod ar absenoldeb ffyrlo. Yn ystod y cyfnod anodd yma, mae cyfle i bobl ddysgu rhywbeth newydd gartref a darparu ysgogiad y mae ei wir angen a hwb i les.

“Gall dysgu ar-lein gyda’r Brifysgol Agored helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd a gwella eu gwybodaeth am bwnc, yn barod ar gyfer pan maent yn dychwelyd i’r gwaith. Mae gan y Brifysgol Agored arbenigedd a gallu byd-eang o ran darparu dysgu ar-lein ac mae ein holl gyrsiau byr ni ar ein platfform OpenLearn am ddim. Gall defnyddwyr gofrestru fel maent yn dymuno a dysgu yn eu hamser eu hunain, gan ddilyn y cwrs ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau eraill.

“Drwy OpenLearn, mae gennym ni amrywiaeth eang o fwy na 1,000 o gyrsiau byr gan gynnwys adrannau ar reoli iechyd a lles y meddwl, gwybodaeth am COVID-19 ar gyfer staff nyrsio a gofal iechyd, ac adnoddau i helpu busnesau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae gennym ni rai cyrsiau sydd wedi cael eu creu yng Nghymru, ac eraill sydd o ddiddordeb i Gymru neu ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar Entrepreneuriaeth Wledig, Sgiliau Bob Dydd mewn Saesneg a Mathemateg, a chwrs dechreuwyr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.”

Mae’r adnoddau ar-lein am ddim yn cynnwys:

Hefyd mae gwybodaeth a chyngor a chyfarwyddyd gyrfaol proffesiynol ar gael o hyd dros y ffôn, ar-lein a thrwy gyfleuster sgwrsio ar y we Cymru’n Gweithio.