Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae’r rhaglen Gofyn a Gweithredu yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu (Llywodraeth Cymru, 2021) yn datgan ei hymrwymiadau a’i blaenoriaethau allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Un o’r blaenoriaethau allweddol yw ehangu’r hyfforddiant Gofyn a Gweithredu.

Mae Amcan 5 y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn datgan y dylid:

hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol ac addas i ddioddefwyr a goroeswyr

Yn unol â’r ymrwymiadau hyn ac i gydnabod pwysigrwydd hyfforddiant mewn atal pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a diogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, mae Llywodraeth Cymru yn ehangu darpariaeth y rhaglen Gofyn a Gweithredu i’r rhai sydd y tu allan i’r diffiniad o ‘awdurdod perthnasol’ yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf).

Mae Adran 14 o’r Ddeddf yn diffinio ‘awdurdodau perthnasol’ fel:

  • awdurdod lleol
  • bwrdd iechyd lleol
  • awdurdod tân ac achub yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo
  • ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42)

Mae tîm polisi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru wedi cael sawl cais dros y blynyddoedd gan y rhai nad ydynt yn cael eu hystyried yn ‘awdurdodau perthnasol’ o dan y Ddeddf, yn gofyn a allant ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i’w haelodau staff. Rydym yn awr yn gallu cynnig hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i’r grŵp ehangach hwn, hy unrhyw sefydliad sydd heb ei restru fel awdurdod perthnasol, a byddwn yn cyfeirio atynt fel ‘awdurdodau ychwanegol’ drwy’r ddogfen hon. Nid yw hwn yn derm a nodir yn y Ddeddf ac nid oes ganddo ddiffiniad statudol.

Mae’r ddogfen hon wedi’i chreu i gefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i’r ‘awdurdodau ychwanegol’ hynny nad ydynt o fewn diffiniad statudol y Ddeddf. Nid oes gofyniad statudol i ‘awdurdodau ychwanegol’ gymryd rhan mewn hyfforddiant Gofyn a Gweithredu. Mae hyn wedi cael ei ymestyn ar sail gwbl wirfoddol.

Canllawiau a argymhellir i’w hystyried ar gyfer darparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i awdurdodau ychwanegol

Dylid rhoi blaenoriaeth i ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i awdurdodau perthnasol. Cynghorir darparu’r rhaglen Gofyn a Gweithredu i awdurdodau ychwanegol ar ôl i bob rhanbarth gael digon o amser i ddod yn hyderus wrth ei darparu.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i bob rhanbarth yng Nghymru sy’n darparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu drwy’r awdurdodau perthnasol ar hyn o bryd.

Bydd y gwaith o ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i awdurdodau ychwanegol yn cael ei wneud gan gydlynwyr Gofyn a Gweithredu rhanbarthol, yn seiliedig ar yr argymhellion canlynol.

Dim ond hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu achrededig fydd yn cael darparu hyfforddiant i awdurdodau ychwanegol. Cynghorir hyfforddwyr achrededig i sicrhau eu bod yn defnyddio’r pecyn hyfforddi diweddaraf, ymgorffori unrhyw welliannau a sicrhau bod unrhyw hyfforddiant gloywi yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen briodol.

Dim ond hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu achrededig fydd yn gallu hyrwyddo a darparu hyfforddiant i awdurdodau ychwanegol fel rhan o gefnogi’r broses genedlaethol ehangach o gyflwyno hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i awdurdodau perthnasol.

Dylid rhoi blaenoriaeth i’r gwaith a wneir i gefnogi’r broses gyflwyno i awdurdodau perthnasol ac ni ddylid byth ganslo ymrwymiadau i ddarparu’r hyfforddiant hwn i ddarparu hyfforddiant i awdurdodau ychwanegol. Cynghorir hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu achrededig i barhau i ddarparu sesiynau i awdurdodau perthnasol fel y cytunwyd arnynt o fewn eu cynlluniau hyfforddi rhanbarthol a ariennir drwy fynediad at y dyraniad Gofyn a Gweithredu rhanbarthol lleol.

Cynghorir bod mynediad i awdurdodau ychwanegol at hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yn cael ei hwyluso drwy’r tîm rhanbarthol perthnasol i sicrhau nad oes ffafriaeth o ran mynediad. Bydd awdurdodau ychwanegol yn gallu chwilio am ddarparwr yn eu hardal leol/ranbarthol, lle bydd hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu achrededig ar gael, a chysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Cynghorir bod costau darparu hyfforddiant i awdurdodau ychwanegol yn seiliedig ar gost diwrnod hyfforddi safonol er mwyn sicrhau dull unffurf ar draws darparwyr ac ar draws Cymru gyda chostau ychwanegol yn cael eu cytuno ar gyfer teithio a chynhaliaeth.

Er mwyn atal canslo sesiynau hyfforddi yn hwyr, bydd modd i gydlynwyr Gofyn a Gweithredu ganiatáu i awdurdodau ychwanegol fynychu sesiwn wedi’i threfnu ar gyfer awdurdodau perthnasol pan fo gostyngiad yn nifer y mynychwyr wythnos cyn y darperir yr hyfforddiant.

Mae’n ofynnol i’r diweddariadau chwarterol (fel rhan o’r hawliadau grant Gofyn a Gweithredu chwarterol) gael eu hanfon i flwch post trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru VAWDASV@llyw.cymru drwy’r consortia rhanbarthol i fonitro faint o bobl sy’n cael eu cyrraedd drwy ddarparu hyfforddiant i awdurdodau ychwanegol. Mae angen dadansoddi cyfraddau cwblhau, fel ei bod yn glir faint o awdurdodau perthnasol ac awdurdodau ychwanegol sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant.

Er mwyn pennu cyrhaeddiad yr ehangiad hwn o ran darparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu, dylid cynnwys nifer yr awdurdodau ychwanegol sy’n cael eu cyrraedd wrth gyflwyno’r cynllun hyfforddi blynyddol a ddarperir gan y consortia rhanbarthol.