Mae'r Safe & Together Institute wedi cael ei gomisiynu gan Cafcass Cymru i ddarparu hyfforddiant i'r holl staff ymarferwyr gyda'r nod o wella sut rydym yn gweithio gydag oedolion a phlant sy'n goroesi cam-drin domestig.
Mae ymateb i'r argymhellion a nodir yn Adroddiad y 'Panel Niwed', a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2020, yn flaenoriaeth i Cafcass Cymru.
Mae'r Safe & Together Institute wedi'i gomisiynu i ddarparu hyfforddiant i'n holl staff ymarferol gyda'r nod o sicrhau newid diwylliannol a gwella sut rydym yn gweithio gyda oedolion a phlant sy'n goroesi cam-drin domestig.
Wrth i ymarferwyr integreiddio'r dull newydd hwn yn eu hymarfer, gobeithiwn y bydd yn arwain at newidiadau yn ein hadroddiadau llys gan gynnwys asesiad cliriach o risg ac argymhellion, sy'n cydnabod yr effaith gymhleth, gynnil a thrawmatig y mae cam-drin domestig yn ei chael ar oroeswyr oedolion a phlant.