Neidio i'r prif gynnwy

Wrth ymweld â safle'r cynllun gwerth £95 miliwn heddiw dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn rhoi hwb gwirioneddol i Ganolbarth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers dechrau'r gwaith ac mae disgwyl i'r ffordd fod yn barod erbyn dechrau 2019. Golyga'r bont newydd ar draws Cwm Dolfor, a adeiladwyd yn ddiweddar fel rhan o'r cynllun, fod modd cwblhau gweddill y cloddwaith.

Bydd y ffordd osgoi i'r de o'r Drenewydd tua 6.5km o hyd a bydd yn ymestyn o Ffordd Llanidloes yr A489 ger Parc Gwyliau Glandulas (i’r gorllewin o’r Drenewydd) hyd at Pool Road yr A483 (i’r dwyrain o’r Drenewydd).  

Bydd y cynllun yn gwella diogelwch drwy alluogi cerbydau nwyddau trwm uchel a cherbydau amaethyddol i deithio drwy'r ardal ac i ffwrdd o ardaloedd preswyl a bydd hefyd yn lleihau tagfeydd traffig ar ffyrdd cyfagos.

Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â’r gweithwyr ar y safle, gan gynnwys y prentisiaid sy’n gweithio ar y ffordd osgoi.  Mae £10.3 miliwn wedi'i wario ar gyflogi pobl o Gymru sy'n cynnwys prentisiaid.

Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru hefyd wedi elwa ar yr £11.5 miliwn sydd wedi'i wario fel rhan o waith datblygu'r ffordd osgoi.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Gwych oedd gweld sut y mae Ffordd Osgoi'r Drenewydd yn dod yn ei blaen. Dyma ddatblygiad pwysig a fydd yn gwella diogelwch, yn lleihau tagfeydd traffig ac yn sicrhau gwell mynediad at swyddi a gwasanaethau, gan roi hwb gwirioneddol i'r economi leol.

"Mae llawer o bwyslais yn cael ei roi ar greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi ar lefel leol ac ar hyn o bryd mae 16 o brentisiaid a hyfforddeion graddedig yn gweithio ar y ffordd osgoi. Dyma newyddion gwych.

“Rydym hefyd wedi cydweithio'n agos â Chyngor Sir Powys er mwyn datblygu darpariaethau Teithio Llesol. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y rhaglen.

"Mae ffordd osgoi'r Drenewydd yn enghraifft wych o'r modd y mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth, gan helpu diwydiant i dyfu a chyflawni dros gymunedau yn y Canolbarth."