Hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer yng Nghymru cynllun cyflawni 2025 i 2028
Sut rydym yn anelu i godi ymwybyddiaeth o risgiau llygredd aer a sut i leihau cysylltiad ag ef ledled Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae aer glân yn hanfodol – ar gyfer ein hiechyd, ein hamgylchedd a’n dyfodol. Mae llygredd aer nid yn unig yn bygwth ein hiechyd ond hefyd yn niweidio cynefinoedd naturiol gwerthfawr a bywyd gwyllt. Mae gwarchod natur yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Cymru iachach a mwy gwydn. Rydyn ni’n cymryd camau i fynd i’r afael â llygredd aer a gwella ansawdd aer i bawb.
Mae ein strategaeth genedlaethol, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, yn dangos y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar draws y Llywodraeth, gydag Awdurdodau Lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol a chymunedau. Mae codi ymwybyddiaeth yn ganolog i’r ymdrech hon – gan helpu pobl i ddeall o ble mae llygredd yn dod a sut i leihau cysylltiad ag ef.
Rhoddodd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ddyletswyddau newydd i Weinidogion Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth. Mae’r Cynllun Cyflawni hwn yn disgrifio sut y byddwn yn cyflawni’r dyletswyddau hynny – gyda chamau gweithredu ymarferol a phartneriaethau cryf.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, Cymunedau, Iechyd a Lles, Plant a Phobl Ifanc ac un thema drawsbynciol ychwanegol. Mae’r camau gweithredu’n targedu materion penodol sy’n effeithio ar ein cysylltiad â llygredd aer yn yr awyr agored ac yn ein cartrefi. Mae’r camau gweithredu hefyd yn anelu at wella ein dealltwriaeth o’r risgiau i’n hiechyd, fel ein bod yn fwy gwybodus wrth gymryd camau ataliol.
Bydd y cynllun yn cael ei gefnogi drwy nifer o gynlluniau cyllid Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ein bod yn gallu cyflawni camau cydgysylltiedig i adeiladu Cymru iachach a mwy gwybodus.
Gyda’n gilydd gallwn godi ymwybyddiaeth, newid ymddygiad, a gwella’r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu.
Huw Irranca-Davies AS
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Llygredd aer: pam mae’n bwysig
Llygredd aer yw un o’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf difrifol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’n effeithio ar yr aer rydyn ni’n ei anadlu bob dydd – gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau.
- Mae 1,000 – 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru yn gysylltiedig â llygredd aer (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
- Dyma’r prif risg amgylcheddol i iechyd, yn enwedig i blant, pobl hŷn a’r rhai sydd eisoes â chyflyrau.
- Mae llygredd aer hefyd yn niweidio bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol – mae 88% o gynefinoedd Cymru mewn perygl.
Mae rhagor o wybodaeth am lygryddion niweidiol a’u ffynonellau ar gael yn ein Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.
Ein hamcan
Ein hamcan yw codi ymwybyddiaeth o risgiau llygredd aer a sut i leihau cysylltiad ag ef ledled Cymru. Mae’r Cynllun Cyflawni hwn yn nodi’r camau y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i helpu i gyflawni hyn erbyn diwedd 2028. Bydd effaith y Cynllun yn cael ei gwerthuso i sicrhau ein bod yn cymryd y camau mwyaf effeithiol ac yn cyflawni’n effeithiol yn erbyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Ein dull o weithredu
Rydyn ni wedi nodi pedair thema allweddol y byddwn yn cyflawni camau gweithredu penodol oddi danyn nhw:
- Thema 1: Cymunedau
- Thema 2: Iechyd a Lles
- Thema 3: Plant a phobl ifanc
- Thema 4: Trawsbynciol.
Thema 1: Cymunedau
O Ymwybyddiaeth i Weithredu: Adeiladu Cymunedau Iachach, Doethach
Beth fyddwn yn ei wneud?
- Byddwn yn datblygu strategaeth gyfathrebu ar y cyd i hyrwyddo aer glân, gan flaenoriaethu gweithgareddau mewn ardaloedd sydd ag ansawdd aer gwael a chanlyniadau economaidd-gymdeithasol ac iechyd gwael. Bydd ein negeseuon yn adlewyrchu sut y gall newidiadau bach mewn bywyd bob dydd wella ansawdd aer – gan arwain at fanteision ar gyfer yr hinsawdd, yr economi, iechyd a chymunedau lleol. Byddwn yn ymgorffori cydraddoldeb ym mhob gweithgaredd, gan sicrhau mynediad teg at aer glân i bawb.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cymunedau, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i ddatblygu adnoddau gwybodaeth. Bydd y rhain yn cefnogi unigolion a busnesau gyda gwybodaeth am ffynonellau ac effeithiau niweidiol llygredd aer. Byddwn yn sicrhau bod negeseuon yn cael eu teilwra i wahanol gynulleidfaoedd ac yn nodi camau ymarferol, cyraeddadwy a buddiol y gellir eu cymryd, a’r cymorth pellach sydd ar gael.
- Byddwn yn datblygu ymgyrch i wella ymwybyddiaeth o’r drosedd segura llonydd sy’n gallu arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig. Bydd gweithgareddau’r ymgyrch yn hyrwyddo dealltwriaeth well o effeithiau niweidiol segura llonydd. Bydd negeseuon yn annog gyrwyr i ddiffodd eu hinjan pan fydd eu cerbyd yn llonydd drwy wneud segura llonydd yn arfer llai cymdeithasol dderbyniol.
- Byddwn yn datblygu ymgyrch i addysgu’r cyhoedd am broblemau ac effeithiau llosgi domestig ar iechyd y cyhoedd.
- Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o effaith nosweithiau tân gwyllt preifat ar ansawdd aer a sŵn. Bydd ymgyrchoedd tân gwyllt yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Awdurdodau Lleol a thimau Diogelwch Cymunedol.
- Byddwn yn addysgu unigolion a chymunedau am effeithiau llygredd aer ar gynefinoedd naturiol, bioamrywiaeth ac amgylcheddau gwledig. Byddwn yn esbonio’r rhyng-gysylltiadau rhwng aer, iechyd ac ecosystemau gwael, colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd, a sŵn. Hefyd, byddwn yn dangos sut mae ffynonellau llygredd aer yn aml yn cyfrannu at amrediad o niwed amgylcheddol.
Thema 2: Iechyd a Lles
Anadlu’n well, Byw’n Well: Rhoi Iechyd wrth Wraidd Aer Glân
Beth fyddwn yn ei wneud?
- Byddwn yn mapio’r deunyddiau hyfforddi presennol sydd ar gael i ddarparwyr gofal iechyd mewn gofal eilaidd, gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer a’i effeithiau ar iechyd. Byddwn yn nodi lle mae bylchau ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu deunyddiau hyfforddi i fynd i’r afael â’r bylchau hyn.
- Byddwn yn mapio deunyddiau presennol ar gyfer codi ymwybyddiaeth o lygredd aer sydd ar gael i ddefnyddwyr y GIG, ac yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau. Byddwn yn sicrhau bod deunyddiau ar gael mewn amrediad o ieithoedd i alluogi cyfathrebu effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddosbarthu deunyddiau, gan flaenoriaethu anghenion penodol grwpiau agored i niwed a grwpiau sensitif.
- Byddwn yn rhannu negeseuon sy’n codi ymwybyddiaeth o’r rhyngberthynas rhwng ansawdd yr amgylchedd dan do a’r amgylchedd awyr agored sy’n effeithio ar iechyd a lles.
Thema 3: Plant a Phobl Ifanc
Lleisiau Ifanc, Awyr Gliriach: Ysbrydoli Gweithredu drwy Addysg
Beth fyddwn yn ei wneud?
- Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o faterion ansawdd aer gyda phlant ysgol a staff. Byddwn yn cynyddu gwybodaeth am achosion, effeithiau ac atebion ar gyfer iechyd a’r amgylchedd naturiol, gan gynnwys bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol. Bydd negeseuon yn adlewyrchu’r effeithiau anghymesur a welir ar rai grwpiau. Byddwn yn mapio ac yn ymchwilio i brosiectau presennol er mwyn nodi unrhyw fylchau, a byddwn yn datblygu atebion addas. Gallai’r atebion hyn gynnwys mentrau fel llysgenhadon mewn ysgolion a gwobrau/cystadlaethau ysgolion.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid addysg ac arbenigwyr i ddatblygu a hyrwyddo adnoddau addysgu penodol i ansawdd aer. Bydd y deunyddiau’n cael eu rhannu ar lyfrgell adnoddau ganolog fel ‘Hwb’. Byddwn yn adolygu’r adnoddau presennol ar gyfer cynhwysiant, gan gynnwys deunyddiau dibynadwy wedi’u cynhyrchu gan sefydliadau. Byddwn yn nodi unrhyw fylchau ac yn comisiynu adnoddau newydd i lenwi’r rhain.
- Byddwn yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ac ysgolion i gynyddu proffil ymgyrchoedd ansawdd aer cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys mentrau fel ‘Diwrnod Aer Glân’, ‘Noson Aer Glân’, ac ‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’. Byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd newydd lle y gall y rhain rannu negeseuon cadarnhaol â phlant a phobl ifanc.
- Byddwn yn darparu cyfleoedd i Awdurdodau Lleol wneud cais am offer monitro er mwyn i ysgolion gynyddu gwelededd ansawdd aer a chynyddu cyfleoedd dysgu. Byddwn yn archwilio opsiynau i sefydlu rhwydweithiau synwyryddion cymunedol mewn ysgolion er mwyn estyn addysg am ansawdd aer y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i gymunedau ehangach.
- Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu addysg am ansawdd aer ac effaith allyriadau cerbydau. Byddwn yn ystyried lle y gellir ymgorffori dysgu yn fwy ffurfiol yn y cwricwlwm. Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i greu a chyflwyno eu hymgyrchoedd eu hunain i wella ansawdd aer a lles. Gall y rhain gynnwys ymgyrchoedd teithio llesol a mentrau i atal segura llonydd, yn ogystal â ffyrdd eraill o gefnogi aer glanach.
Thema 4: Trawsbynciol
Ansawdd Aer i Bawb: Hygyrch, Cynhwysol, Gwybodus
Beth fyddwn yn ei wneud?
- Byddwn yn adolygu cwmpas, hygyrchedd ac effaith gwybodaeth am ansawdd aer a ddarperir ar wefan Ansawdd Aer yng Nghymru Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o leihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer a lleihau cyfraniadau unigol. Byddwn yn ystyried sut y gallwn wella’r adnoddau sydd ar gael i athrawon, pobl ifanc, rhieni a grwpiau cymunedol.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein negeseuon am ansawdd aer yn cael eu rhannu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd hyn yn cynnwys deunyddiau ar-lein a deunyddiau print, fel y gall pawb gael gafael ar wybodaeth. Byddwn yn darparu deunyddiau print mewn gwahanol leoedd i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.
- Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i sicrhau bod ein strategaeth gyfathrebu yn adlewyrchu’r syniadau rhyngwladol gorau ac yn helpu pobl i ddeall pam mae ansawdd aer yn bwysig.
- Byddwn yn archwilio ffyrdd o’i gwneud yn haws i bobl weithredu ar wybodaeth am ansawdd aer. Byddwn yn sicrhau bod ansawdd aer yn cael ei ystyried mewn meysydd pwysig eraill, megis byw’n iach, trafnidiaeth, cynllunio, tai, amaethyddiaeth ac ati.
Sut byddwn yn mesur allbynnau?
- Byddwn yn defnyddio gwybodaeth o arolygon cyhoeddus i olrhain newidiadau mewn ymwybyddiaeth ac ymddygiad.
- Byddwn yn gwerthuso’r cynllun hyrwyddo ymwybyddiaeth ar ddiwedd 2028.
- Byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer cynllun wedi’i adnewyddu i’w gyhoeddi ym mis Ionawr 2029.
