Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wedi hyrwyddo cryfder ac arloesedd gweithgynhyrchu Cymru ac wedi pwysleisio unwaith eto gefnogaeth ddiwyro Llywodraeth Cymru i'r sector hanfodol hwn ar ymweliad ag un o'r busnesau preifat mwyaf yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Mae NIDEC Drives, a elwid gynt yn Control Techniques, wedi bod yn gonglfaen o economi Canolbarth Cymru ers dros bum degawd. Sefydlwyd y busnes, sy'n dylunio a chynhyrchu technoleg rheoli moduron trydan uwch, yn 1973 fel busnes bach ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn llwyddiant rhyngwladol. Gyda throsiant o tua £125 miliwn, mae'r cwmni'n cyfrannu'n sylweddol at economi Canolbarth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau fel NIDEC Drives i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu sydd gyda'r gorau yn y byd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cwmni dros nifer o flynyddoedd, ac yn 2021 bu cyllid Llywodraeth Cymru o gymorth i NIDEC Drives drosglwyddo gwaith cynhyrchu o Tsieina i'w ganolfan yn y Drenewydd. Mae eleni hefyd yn nodi 30 mlynedd ers i'r cwmni feddiannu ei safle yn Y Gro, lle mae ei ganolfan ymchwil a datblygu fyd-eang.
Wrth siarad yn ystod ymweliad â NIDEC Drives, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae NIDEC Drives yn hanfodol i gymuned Canolbarth Cymru, nid yn unig fel cyflogwr mawr sy'n darparu swyddi medrus, ond fel cwmni sy'n buddsoddi mewn pobl leol drwy brentisiaethau a hyfforddiant. Mae ei bresenoldeb hirsefydlog yn y Drenewydd a'i ymrwymiad i gynaliadwyedd, gwaith teg a'r gymuned yn ei gwneud yn gonglfaen o les economaidd a chymdeithasol yn y rhanbarth.
"Mae uchelgeisiau NIDEC Drives ar gyfer y dyfodol yn cyd-fynd â'n gweledigaeth i sicrhau capasiti gweithgynhyrchu'r presennol ar gyfer y dyfodol, manteisio ar gyfleoedd pellach yn y dyfodol, ac ymateb i heriau hirdymor.
"Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol gref a bydd harneisio pŵer datgarboneiddio, digideiddio a datblygu sgiliau yn hanfodol os ydym am ddarparu mwy o swyddi, arloesedd a gwydnwch ar gyfer diwydiant gweithgynhyrchu Cymru.
"Rydym wedi cefnogi tua 46,000 o swyddi ers dechrau tymor y Senedd hon drwy ein rhaglenni cymorth busnes, a byddwn yn parhau i wneud Cymru yn wlad lle mae swyddi da, busnesau cryf, a chymunedau ffyniannus yn sail i economi gryfach, tecach a gwyrddach."
Dywedodd Anthony Pickering o NIDEC Drives:
“Rydym yn hynod o falch o’n gwreiddiau dwfn yng Nghanolbarth Cymru ac o’r cyfraniad sylweddol y mae ein safle yn y Drenewydd yn ei wneud i’r economi ranbarthol.
“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ymrwymiad NIDEC i gynnal gweithgynhyrchu o ansawdd uchel yng nghanolbarth Cymru am ddegawdau i ddod. “Rydym yn credu’n gryf mewn hyrwyddo ‘Cymru i Gymru’ a chan gydnabod ein rôl hanfodol yn economi canolbarth Cymru, rydym yn falch o eirioli dros ddiwydiant Cymru.
“Mae NIDEC Drives yn parhau i fod â gwreiddiau dwfn yn y Drenewydd, Powys, a bydd yn parhau i fuddsoddi yn y bobl yn yr ardal leol a'r cyffiniau.
